Eglwysi Abertawe yn cynnig lloches
- Cyhoeddwyd
Mae eglwysi yn Abertawe wedi lansio menter i ddarparu lloches argyfwng ar gyfer pobl ddigartref.
Bydd dros 100 o wirfoddolwyr yn cael eu cydlynu gan chwe eglwys sy'n cymryd rhan yn y prosiect.
Mae neuaddau eglwys yn cael eu hagor i gynnig gwely a bwyd poeth am hyd at 28 diwrnod i bobl sy'n cysgu allan.
Dywedodd cydlynydd y prosiect, Mandy Harvey, y byddai'n darparu help dros dro i bobl wrth i'r awdurdodau eu helpu i ddod o hyd i lety parhaol.
Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan Swansea Hope, mudiad o eglwysi lleol sydd yn hybu prosiectau gweithredu cymdeithasol.
Lloches a brecwast
Bydd y chwe eglwys - sydd ddim yn cael eu henwi'n gyhoeddus - yn rhannu cyfrifoldeb i sicrhau bod lloches ar gael drwy'r wythnos, gyda phob neuadd eglwys yn cynnig llety i uchafswm o 12 person bob nos.
Bydd neuaddau gyda gwres a thoiledau yn cael eu dewis ar gyfer y fenter, gyda bwyd poeth a gwelyau yn cael eu darparu.
Bydd neuaddau gwahanol yn cael eu defnyddio ar nosweithiau olynol a bydd cludiant rhwng y gwahanol leoliadau yn cael ei gynnig.
Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales dywedodd Ms Harvey: "Byddan nhw'n cael pryd o fwyd poeth, llety am noson a brecwast.
"Yna byddan nhw'n cael eu hanfon ar eu ffordd am wyth o'r gloch y bore ac yn gallu troi i fyny yn y lleoliad nesaf am wyth o'r gloch y noson honno."
'Cyfle i helpu'
Ychwanegodd Ms Harvey ei bod wedi ei "syfrdanu" gan nifer y gwirfoddolwyr oedd yn barod i helpu ac i geisio mynd i'r afael â digartrefedd.
"Mae pobl yn dueddol o dybio mai pobl â phroblem dibyniaeth yw'r rhai sydd yn byw ar y strydoedd ond mewn gwirionedd gall pobl â bywydau arferol ond sydd wedi cael amser anodd hefyd ddod yn ddigartref," meddai.
"Yn sicr, mae pob un ohonon ni yn euog o wneud camgymeriadau a pham dylen ni i gyd gael ein cosbi am y camgymeriadau?
"Mae hyn yn rhoi cyfle i ni helpu'r rhai sydd wedi diodde."
Dywedodd y trefnwyr eu bod yn gobeithio helpu hyd at 50 o bobl dros y ddau fis nesaf.
Os bydd y fenter yn llwyddiannus, maen nhw'n bwriadu ei hailadrodd am dri mis yn 2013.