Cymoedd y de: 'Ardal ôl-ddiwydiannol fwyaf difreintiedig y DU'

Rhesi o dai ym mhentref Stanleytown yn ardal Pendyrus, Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn her i ddenu arian newydd i'r cymoedd yn lle'r arian oedd yn arfer dod o'r Undeb Ewropeaidd, medd yr adroddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib mai cymoedd y de yw'r mwyaf difreintiedig o holl ardaloedd ôl-ddiwydiannol y Deyrnas Unedig.

Mae adroddiad newydd gan Gynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn dweud bod angen mwy o swyddi o ansawdd yn nes at gartrefi pobl, a sicrhau gwell cysylltiadau trafnidiaeth.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n cefnogi "amrywiaeth o fuddsoddiadau a rhaglenni datblygu economaidd" yn y rhanbarth.

Mae'r adroddiad 'Y Camau Nesaf i'r Cymoedd' yn dweud bod yr ardal yn ei chael hi'n anodd i ddenu buddsoddiad a swyddi i'r cymoedd, yn enwedig ers colli arian yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'n dadlau bod y cynlluniau ariannu a ddaeth yn lle hynny werth llawer llai.

'Y dystiolaeth yn boenus'

Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ar hyd y de - o Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin i Dorfaen yn y dwyrain.

Yn ôl cyfarwyddwr y Gynghrair yng Nghymru, Meirion Thomas, roedden nhw wedi "synnu i ba raddau roedd y cymoedd yn ymddangos gymaint yn waeth eu byd na'r ardaloedd coalfields eraill trwy Brydain.

"Roedden ni'n gwybod bod problemau gyda ni, ond roedd e'n boenus i weld y dystiolaeth.

"Felly roedd yn rhaid gofyn i'n gilydd os yw'r sefyllfa mor ddrwg, beth dylen ni wneud i wella pethau yn y cymoedd."

Rhesi o dai yng nghymoedd y de ar ddiwrnod llwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd yn gorfod teithio o'r cymoedd i fynd i'r gwaith, ond mae bron i 20% o'r bobl rhwng 16 a 64 oed heb waith, ac yn derbyn budd-daliadau

Mae'r adroddiad yn dweud bod denu swyddi i'r cymoedd yn anodd gyda dim ond 46 o swyddi am bob 100 o drigolion oed gweithio.

Mae'n dweud bod degau o filoedd yn gorfod teithio mas o'r cymoedd i fynd i'r gwaith - rhai yn teithio am dros awr - a bod bron i un o bob pump o bobl rhwng 16 a 64 oed heb waith, ac yn derbyn budd-daliadau.

Ers tranc y diwydiant glo dros 30 mlynedd yn ôl, mae pryderon wed bod am sefyllfa economaidd y cymoedd, ac yn ôl yr economegydd, yr Athro Dylan Jones-Evans, mae'n "drist iawn gweld y sefyllfa" sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad hwn.

"Mae 'na biliynnau o arian wedi cael ei glustnodi yn y gorffennol, i drio codi lefel y cymoedd a trio creu swyddi, ond mae'n glir dydi hynny heb weithio i fyny i rŵan.

"Hefyd oherwydd mae'r arian Ewropeaidd yna wedi mynd, mae'n edrych fel bod Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill wedi tynnu llygaid off y bêl...

"Mae'n glir mae'r problemau oedd yna 20 mlynedd yn ôl - yr un problemau sydd yno heddiw."

Yr Athro Dylan Jones-Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dyw sefyllfa economaidd y cymoedd heb wella er gwaethaf ymdrechion dros sawl blwyddyn, medd yr Athro Dylan Jones-Evans

Yng Nghlynrhedynog yn y Rhondda Fach, mae'r Siop Fach Sero ar y stryd fawr - menter gymunedol sy'n cynnig gwasanaeth ail-lenwi, a chaffi, agorodd bum blynedd yn ôl.

"O'n i'n meddwl bydde fe'n dalced caled o'r cychwyn cynta'," meddai un o'r cyfarwyddwyr, Dafydd Rogers.

"Mae lot fawr o'r siopau ar y stryd fawr yng Nglynrhedynog yn stryglo tipyn bach erbyn hyn.

"Bedair blynedd yn ôl, o'n ni ar agor chwe diwrnod yr wythnos. Erbyn hyn ni lawr i bedwar diwrnod er mwyn arbed costau staffio ac yn y blaen.

"Mae nifer o siopau ar gau ar ddydd Sadwrn - dy'n ni ddim ar agor ar ddydd Sadwrn - felly mae'r stryd fawr wedi mynd yn dipyn o le tawel."

Dafydd Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Rogers wedi rhagweld talcen caled ers dyddiau cynnar agor Siop Fach Sero yng Nghlynrhedynog

Mae'r adroddiad yn galw am sicrhau bod cyllid yn dal i gyrraedd yr ardal, gan roi pwyslais ar gefnogi busnesau yn y sector gweithgynhyrchu.

Mae 'na alw hefyd am system brentisiaethau sy'n gweithio i sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc, ac i gyflymu amseroedd teithio, gan fanteisio ar ffordd newydd yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, gafodd ei chwblhau fel ffordd ddeuol yn ddiweddar.

Rhan o Ffordd Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Cwmni Adeiladu FCC
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gwaith ar yr A465 - ffordd Blaenau'r Cymoedd - i ben ddiwedd Mai eleni

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio i gefnogi amrywiaeth o fuddsoddiadau a rhaglenni datblygu economaidd ar draws cymoedd de Cymru er mwyn sicrhau mwy o swyddi a thyfiant economaidd hirdymor i'w cymunedau.

"Mae hyn yn cynnwys y rhaglen uchelgeisiol Tech Valleys, sydd wedi ymrwymo dros £44 miliwn i brosiectau hyd yma ac sy'n gweithio i drawsnewid economi'r cymoedd i fod yn ganolfan ar gyfer datblygu technolegau newydd mewn diwydiant blaengar."

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gweithio "law yn llaw â llywodraeth Cymru i yrru twf a chyfleoedd i bobl sy'n gweithio".

Mae Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru yn cydnabod nad oes 'na ateb hawdd, ond yn galw ar lywodraethau gwahanol ac asiantaethau i weithio ar gynlluniau tymor hir.

"Dyma mae pobl y cymoedd yn haeddu," meddai Meirion Thomas.

"Mae'r bobl sy'n byw yno wedi aros yno, a nawr mae'n amser i ddweud allwn ni neud yn well i'r cymoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig