Disgwyl mwy o fanylion am y gyllideb olaf cyn ethol Senedd nesaf Cymru

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Mark Drakeford gael cefnogaeth pleidiau eraill i gymeradwyo'r gyllideb

  • Cyhoeddwyd

Mi fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â'r gyllideb yn ystod y dydd, sef y gyllideb olaf cyn etholiad y Senedd fis Mai.

Ar ôl colli sedd Caerffili yn yr isetholiad fis Hydref, does gan y llywodraeth Lafur ddim digon o aelodau o'r Senedd i basio'r gyllideb heb gefnogaeth o leiaf dau aelod arall o'r Senedd.

Eisoes, mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi dweud bod hon yn gyllideb "busnes fel arfer" sy'n golygu bod pob adran yn cael yr un faint o arian ag eleni ond gyda chynnydd yn unol â chwyddiant.

Ond yn ôl rhai, yn enwedig o fewn llywodraeth leol, fydd hyn ddim yn ddigon o arian i osgoi toriadau.

Os ydy'r llywodraeth yn methu taro bargen gyda plaid arall, mi allai'r goblygiadau fod yn ddifrifol oherwydd mi fydd yn pasio yn awtomatig ar 75% o wariant eleni fyddai'n arwain at doriadau mawr a cholli swyddi.

Graffeg yn dangos nifer aelodau'r pleidiau unigol yn Senedd Cymru - Llafur: 29; y Democratiaid Rhyddfrydol: 1; y Ceidwadwyr: 14; Plaid Cymru: 13; Reform: 1; Annibynnol: 2.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru wedi isetholiad Caerffili

Roedd Llafur un sedd yn brin o fwyafrif yn barod, hyd yn oed cyn iddyn nhw golli isetholiad Caerffili, ac felly eleni roedd rhaid dibynnu ar yr un AS Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, i basio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad yna, mae'n rhaid i Lafur rŵan berswadio o leiaf dau aelod o'r Senedd i'w cefnogi er mwyn gallu pasio'u cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r gyllideb hon yn arwyddocaol oherwydd mae'r polau piniwn yn awgrymu mai plaid arall fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, ac felly yn etifeddu'r cynlluniau gwario yma.

Mae drafft cyntaf y cynlluniau yn awgrymu y gallai pob adran weld cynnydd yn eu coffrau o tua 2% ond mae disgwyl i'r ffigyrau yna newid, gyda £380m heb ei benodi er mwyn galluogi'r llywodraeth i sicrhau cefnogaeth plaid arall.

Mae trafodaethau ar droed rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a'r llywodraeth ynglŷn â tharo bargen.

Un o flaenoriaethau'r blaid honno ydy cael gwared ar drethi ar werthu tai, yn ôl eu harweinydd, Darren Millar, ond mae Mark Drakeford wedi dweud na fydd hynny'n bosib oherwydd y byddai'n arwain ar "dwll du mawr yn y gyllideb".

Mae Plaid Cymru wedi awgrymu mai cyfrifoldeb Llafur yw pasio'r gyllideb, ond tydyn nhw heb gau'r drws yn glep ar daro bargen, gyda'u llefarydd Cyllid, Heledd Fychan, yn dweud bod 'na ddisgwyl arnynt i fod yn "aeddfed yn ein agwedd" tuag at y ddadl.

Mae disgwyl pleidlais ar y gyllideb Gymreig ar 27 Ionawr, dolen allanol ond mae gan y llywodraeth tan ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau nad ydy'n pasio ar y raddfa is o 75%.

'Mwy na £800m o gyllid ychwanegol'

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd manylion pellach am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, sy'n werth £27bn, yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach heddiw, gan nodi mwy na £800m o gyllid ychwanegol o gymharu â chyllideb y llynedd.

"Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford y bydd y cynlluniau adrannol – ail gam y Gyllideb Ddrafft - yn dangos manylion ehangach cynlluniau gwario'r llywodraeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.