Grŵp yn galw am well gofal i bobl â nam ar eu golwg a'u clyw
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp wedi dweud nad yw pobl â nam ar eu clyw neu eu golwg yn cael gofal digonol yn y Gwasanaeth Iechyd.
Ddydd Llun cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, argymhellion y gr
Dywedodd Richard Williams, cyfarwyddwr elusen Action on Hearing Loss Cymru: "Mae yna nifer o enghreifftiau o ymarfer da ond nid ledled Cymru.
"Wrth i bobl fyw yn hirach, gallwn ddisgwyl cynnydd sylweddol yn nifer y bobl â nam.
"Felly mae'n bwysig bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio ar gyfer eu hanghenion."
Mae Cymdeithas y Deillion yng Nghymru wedi honni nad yw 86% o bobl ddall neu rannol ddall yn gallu darllen llythyrau apwyntiad.
Ac maen nhw wedi dweud bod 30% o bobl fyddar neu â nam ar eu clyw yn ei chael hi'n anodd deall eu cyflwr ohewydd diffyg cyfathrebu staff meddygol.
'Annerbyniol'
Un o'r rhai gyfrannodd at yr adroddiad yw John Ramm o Wrecsam sydd ei hun yn ddall.
"Rhaid i'r byrddau iechyd dderbyn yr argymhellion ... mae'n annerbyniol anfon llythyrau i bobl mewn fformat nad ydyn nhw'n gallu ei ddarllen.
"Mae'n hanfodol fod pobl â nam ar y timau sy'n archwilio ysbytai i sicrhau bod yna newidiadau hirdymor."
Dywedodd Doreen Gunning, cadeirydd grŵp cymorth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, fod agen trin pawb gydag urddas a pharch.
"Dwi'n sicr y gall y rhan fwya o bobl fyddar sôn am adeg pan gafon nhw eu trin fel twpsyn oherwydd eu cyflwr.
"Nid yw staff wedi cael yr hyfforddiant cywir a dwi'n credu y dylai pob un sy'n delio gyda chleifion dderbyn yr hyfforddiant."