Blwyddyn ers cau'r ffwrneisi chwyth, sut mae Port Talbot yn ymdopi?

- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ar droed i "adeiladu dyfodol" cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, blwyddyn ers i Tata Steel ddiffodd ei ffwrneisi chwyth.
Mae tua 400,000 tunnell o ddeunydd wedi'i glirio er mwyn adeiladu ffwrnais drydan newydd gwerth £1.25bn fydd yn toddi dur sgrap.
Dywedodd rheolwr y prosiect, Peter Jones, fod y cwmni'n "benderfynol" o gyflawni'r addewid o gynhyrchu dur mwy gwyrdd yn ne Cymru.
Cafodd tua 2,000 o weithwyr eu diswyddo yng ngwaith dur mwyaf y DU ar ôl i'r cwmni ddweud bod ei ffwrneisi chwyth yn colli £1m y dydd.

Mae Peter Jones yn disgwyl i 1,200 o bobl weithio ar y safle wrth adeiladu'r ffwrnais newydd
Roedd angen gwres uchel ar y ffwrneisi chwyth i droi cynhwysion - gan gynnwys mwyn haearn - yn haearn hylifol, a gafodd ei brosesu wedyn mewn rhannau eraill o safle Port Talbot i ddod yn nwyddau dur.
Mae dur yn dal i gael ei gynhyrchu yn y gweithfeydd, ond mae'r broses bellach yn dibynnu ar slabiau dur wedi'u mewnforio sy'n cael eu melino ar y safle.
Yn y pen draw, y ffwrnais drydan newydd fydd yn ffynhonnell y dur pan fydd yn dechrau toddi metel sgrap ddiwedd 2027.
Dywedodd Peter Jones fod offer gwerth "miliynau a miliynau o bunnoedd eisoes wedi'i archebu er mwyn i ni ddechrau" adeiladu'r ffwrnais drydan.
Dywedodd fod "tua 350 o bobl ar y safle, mae tua 200 o bobl yn gweithio o fewn Tata Steel UK ar y prosiect ar ben hynny".
"Wrth i ni adeiladu, bydd rhywbeth fel 1,000 i 1,200 o bobl ar y safle yn gwneud yr adeiladu."

Argraff artist o sut allai'r tirlun newid wrth godi adeiladau newydd fydd yn gartref i'r ffwrnais drydan
Er bod hen strwythurau'r ffwrnais chwyth yn dal i sefyll, mae'r ardal lle bydd y ffwrnais drydan yn cael ei chlirio cyn y gwaith adeiladu.
Mae Carys Jenkins yn rheoli'r gwaith o adeiladu sawl craen newydd, a fydd yn cario llwythi trwm sy'n pwyso cannoedd o dunelli fel rhan o weithrediadau'r ffwrnais newydd.
"Mae'n gyfnod cyffrous iawn," meddai Ms Jenkins.
"Roeddwn i'n rhan o ddadgomisiynu'r gweithfeydd ac mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond mae'r cyfnod nesaf o'n blaenau mor gyffrous ac rwy'n credu y bydd yn wych i'r gymuned," meddai.
Mae contractwyr lleol wedi ennill gwaith i glirio'r safle, ac mae disgwyl mwy o gyfleoedd wrth i'r prosiect dyfu.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond mae'r cyfnod nesaf o'n blaenau mor gyffrous," meddai Carys Jenkins
Mae busnesau lleol sy'n gobeithio bod yn rhan o ddyfodol Tata Steel ym Mhort Talbot yn cynnwys Runtech, busnes teuluol a gafodd ei sefydlu i gefnogi perchnogion y gweithfeydd - British Steel ar y pryd - yn 1996.
"Yn anffodus, mae awyrgylch o ansicrwydd wedi bod o amgylch y diwydiant dur ers cryn amser, ond mae wedi profi i fod yn wydn iawn," meddai pennaeth gweithrediadau Runtech, Joe Roderick.
Mae'r cwmni'n cyflogi tua 400 o bobl, ar ôl tyfu o'i ganolfan yn ne Cymru i gefnogi'r diwydiant dur ledled y DU gyda gwasanaethau gan gynnwys cludo nwyddau, glanhau diwydiannol a chefnogaeth reoli.

Roedd "effaith sylweddol" ar gwmni Joe Roderick wedi i'r ffwrneisi chwyth cau
"Mae effaith eithaf sylweddol wedi bod i Runtech ers i'r ffwrneisi chwyth gau," meddai Mr Roderick.
"Yn ffodus, roeddem yn gallu symud y bobl hynny i gyfleoedd eraill a ddaeth o fewn y safle yma ym Mhort Talbot."
Dywedodd fod y busnes "ar y cyfan" wedi dod allan o'r ailstrwythuro "yn eithaf da, o ystyried maint y newidiadau yma ar y safle".

Fe gollodd Levi Roberts ei swydd yn y gweithfeydd dur y llynedd, ac mae bellach wedi sefydlu busnes bwyd
O'r bobl a adawodd y gweithfeydd dur y llynedd, mae rhai wedi symud i ddiwydiannau newydd tra bod eraill wedi creu cwmnïau ei hunain.
"Mae 'na rhai sy' dal i drafferthu i ddod o hyd i lwybr newydd," meddai Levi Roberts, a gollodd ei swydd ar y diwrnod olaf o weithredu'r ffwrnais chwyth.
Mae Mr Roberts, sy'n 29, wedi sefydlu busnes newydd yn gwerthu pizzas, ac wedi troi fan ceffylau yn stondin i fynd a'i fusnes newydd ar daith.
Dywedodd i'r sefyllfa ym Mhort Talbot fod yn "dipyn o sioc oherwydd roedden ni'n cael cyflog da iawn gyda Tata" a'i fod wedi troi'n "gyfnod brawychus" i'r rheiny gyda morgeisi a phlant i'w cefnogi.
Er hynny, mae'n dweud fod y profiad o golli swydd yn y gwaith dur wedi troi'n gyfle gwych iddo.
"I mi fy hun, mae'n debyg mai dyma oedd un o'r pethau gorau a allai fod wedi digwydd.
"Cic lan fy mhen-ôl i fynd ar ôl fy mreuddwydion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024