Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan Tesco ym Mangor

Allt y Garth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddynes ei tharo gan y fan ar Allt y Garth ym Mangor toc wedi hanner dydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes farw ar ôl cael ei tharo gan fan ddosbarthu archfarchnad Tesco ym Mangor.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Allt y Garth toc wedi 12:00 ddydd Llun.

Cafodd y "ddynes oedrannus" ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Mae'r dyn 33 oed oedd yn gyrru'r fan wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig