Gwefan cofnodi enwau Cymraeg 'ddim yn mynd yn ddigon pell'

- Cyhoeddwyd
Fe allai pobl nawr gofnodi enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol sydd ddim yn ymddangos ar fapiau ar-lein, ar ôl lansio gwefan newydd.
Mae'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i warchod treftadaeth ieithyddol.
Ond yn ôl ymgyrchydd iaith, mesurau i warchod yn hytrach na chofnodi yn unig sydd eu hangen.
Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford bod y mesurau newydd yn sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg "yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan".

Mae'r cynllun hefyd yn annog pobl i gyfrannu at adnoddau ar-lein fel Wikipedia, drwy recordio clipiau sain i gofnodi sut i ynganu enwau lleoedd.
Bydd hefyd canllawiau cliriach i awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd, gydag ymchwil pellach i enwau nodweddion ffisegol yn y dirwedd, fel bryniau a nentydd, yn cael ei gomisiynu.
Mae'r mesurau newydd yn dilyn gwaith gan brosiectau mapio fel Mapio Cymru a'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus fel Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.

Mae enwau'n dangos y cysylltiadau gyda phobl a hanes ardaloedd, meddai Naomi Jones
Dywedodd Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod "cymaint o wybodaeth yn bodoli mewn cymunedau am enwau lleoedd a'r cefndir y tu ôl i'r enwau yna, ac fel mae'r enwau yn perthyn i'w bro, mae 'na gyfoeth o wybodaeth allan yna ac mae'n bwysig cael cofnod ar gof a chadw".
"Fel parc mae enwau lleoedd yn dangos y cysylltiadau rhyngddom ni fel pobl, y tir, y tirwedd a'r bywyd gwyllt, a threftadaeth.
"Felly mae cryfhau'r cofnodion fel nodwedd o'n hiaith a'n tirwedd a chynnal hyn fel peth byw yn hynod, hynod bwysig."

Dydy cofnodi yn unig ddim yn gwarchod enw, meddai Ieuan Wyn
Ond wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ieuan Wyn o grŵp ymgyrchu Cylch yr Iaith nad yw'r cynllun yn mynd yn ddigon pell.
"Y broblem gyda hwnna, allech chi fod yn cofnodi cannoedd o enwau. Beth sydd angen ydy mesurau gan Lywodraeth Cymru i warchod enwau Cymraeg - rhag i'r enw Cymraeg gwreiddiol gael ei disodli gan enwau Saesneg.
"Mae'n digwydd yn gyson oherwydd bod pobl yn symud mewn i'r ardaloedd ac oherwydd gor-dwristiaeth.
"Dydy cofnodi ddim am warchod - os am roi cyfle i bawb i anfon mewn enwau, mae'n rhaid cael rhyw fath o banel gyda gwybodaeth leol i wirio i sicrhau bod yr enwau yn gywir."

Bydd y mesurau'n sicrhau bod enwau mynyddoedd fel Cader Idris yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, meddai'r llywodraeth
Ychwanegodd bod enwau "mor bwysig i'n hanes", a bod eu colli yn broblem fawr.
"Beth sy'n digwydd yn aml, mae'r enwau Saesneg yn cael eu defnyddio mewn llyfrau ac mae'r cyfryngau yna'n defnyddio'r enw Saesneg ar y lle, a da ni fel Cymry wedyn hefyd yn dilyn, yn enwedig pobl ifanc.
"Enwau lleol Cymraeg sy'n diffinio ni fel Cymry - tarddiad gair yn sylfaenol i'n bodolaeth - diffinio ni fel gwlad wahanol. Mae rhannau o Gymru sy'n swnio fel bod nhw yn Lloegr."
'Haws i bawb gymryd rhan'
Mewn datganiad yn lansio'r wefan, dywedodd Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd yn cyfleu pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod.
"Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ein henwau lleoedd Cymraeg - o fynyddoedd chwedlonol fel Cadair Idris i Felin Wen, hen felin sy'n adrodd hanes cymuned fechan - yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan."
Mewn ymateb i bryderon Cylch yr Iaith, ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gyda haneswyr lleol ac arbenigwyr i ddiogelu a hyrwyddo'r enwau hyn, gan gefnogi eu defnydd mewn lleoliadau eiconig fel parciau cenedlaethol byd-enwog Eryri a Bannau Brycheiniog".
"Byddwn yn seilio'n gwaith yn y maes ar ddealltwriaeth gadarn o sut mae enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu defnyddio, a hynny er mwyn eu gwarchod a'u hyrwyddo at y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Medi
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2016