Dilyn camau actor enwog
- Cyhoeddwyd
Mae gwefan wedi cael ei lansio i hyrwyddo'r llwybr gafodd ei greu er cof am yr actor Richard Burton.
Mae Llwybr Richard Burton yn daith dair milltir (4.8 cilometr) o gwmpas pentrefi Pontrhydyfen a Chwmderw, sydd wedi eu hamgylchynu gan Barc Coedwig Afan.
Mae'r wefan yn cynnwys cyfweliadau â ffrindiau a theulu'r actor a gafodd ei enwebu am Oscar chwe gwaith.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gobeithio bydd y wefan yn denu cefnogwyr Richard Burton o bedwar ban byd.
Cafodd Richard Burton ei eni ym Mhontrhydyfen yn 1925.
Mae'n enwog am ei bortread o'r Rhufeiniwr Mark Anthony yn ffilm fawr Elizabeth Taylor 'Cleopatra', yn arbennig o gofio am eu carwriaeth oddi ar y sgrin hefyd.
Fe ddaeth yn un o wynebau a lleisiau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Gall ymwelwyr i'r wefan wrando ar Burton yn adrodd darn o'r ddrama radio, Dan y Wenallt, a gafodd ei hysgrifennu gan ei hoff fardd, Dylan Thomas.
Arwyddbyst
Dywedodd arweinydd y cyngor, Ali Thomas, fod y llwybr ei hun yn boblogaidd iawn ac eisoes wedi denu cannoedd o ymwelwyr.
Ar hyd y llwybr mae arwyddbyst gyda phaneli gwybodaeth sy'n rhoi ffeithiau diddorol am blentyndod a gyrfa Burton, fu farw yn 1984.
"Mae gan Richard Burton lu o ddilynwyr ar draws y byd," meddai Mr Thomas.
"Bydd y wefan yn hyrwyddo'r llwybr a'r ardal mewn modd mwy effeithiol i gefnogwyr Richard Burton.
Mae llwybr newydd yn yr arfaeth ar gyfer Tai-bach, Port Talbot lle'r oedd Richard Burton yn byw rhwng dwy flwydd oed nes bod yn ei arddegau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2011