Gwella tai cymdeithasol 'ddim yn mynd i gyrraedd y nod'
- Cyhoeddwyd
Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn cyrraedd y targed i wella safon tai cymdeithasol, yn ôl adroddiad newydd.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i Weinidogion wneud mwy i sicrhau fod yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau i dai yn cael ei wario'n effeithiol.
Degawd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y dylai pob un o'r 221,000 o dai sy'n cael eu rhentu gan gynghorau lleol a Chymdeithasau Tai gyrraedd safonau penodol.
Roedd gofyn iddyn nhw fod mewn cyflwr da, wedi'i wresogi'n ddigonol a chynnwys ystafell 'molchi a chegin fodern.
Ond dywed Swyddfa Archwilio Cymru na fydd y targed 10 mlynedd yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd 2012.
Dim ond 79% o dai fydd yn cyrraedd y safon erbyn 2017.
Gwaith i'w wneud
Mae'r mwyafrif o dai sy'n cwympo islaw'r safon mewn ardaloedd lle mae tenantiaid y cyngor wedi pleidleisio yn erbyn trosglwyddo rheolaeth i Gymdeithas Dai, neu ardal lle nad oes pleidlais wedi'i gynnal.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, fod ansawdd tai cymdeithasol yn amlwg yn gwella.
"Ond mae llawer o waith ar ôl i'w wneud o hyd i sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yn bodloni gofynion lleiaf Safon Ansawdd Tai Cymru.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth effeithiol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal.
"Mae angen i'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd nesaf gael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn enwedig yn y cyfnod ariannol heriol hwn."
Dywedodd Darren Millar, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, ei bod yn amlwg yn hynod siomedig y bydd Llywodraeth Cymru ymhell o gyflawni'i tharged ei hun o ran sicrhau y dylai'r holl dai cymdeithasol fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2012.
"Yr hyn sydd o bryder neilltuol, yn y fframwaith polisi ac ariannol presennol, yw ei bod yn ymddangos nad oes fawr o obaith y bydd cartrefi nifer arwyddocaol o denantiaid awdurdodau lleol yn diwallu anghenion sylfaenol Safon Ansawdd Tai Cymru o fewn unrhyw amserlen resymol.
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi rhai gwelliannau yn ansawdd tai cymdeithasol sydd i'w croesawu.
"Ond mae'n amlwg bod gwersi i'w dysgu o'r adroddiad hwn o ran arweiniad Llywodraeth Cymru a'r modd mae'n monitro'r broses o gyflawni amcanion polisi'r dyfodol."