Cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig yn Guernsey yn ystod 2010Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig yn Guernsey yn ystod 2010

Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn cwrdd ag arweinwyr eraill Prydain ac Iwerddon ar ddiwedd wythnos ble mae dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn uchel ar yr agenda wleidyddol.

Diweithdra ymhlith pobl ifanc fydd un o'r pynciau dan sylw mewn cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Nulyn ddydd Gwener.

Sefydlwyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ym 1998 a'i bwrpas yw hybu'r berthynas rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Mae yna wrthdaro wedi bod yr wythnos hon rhwng llywodraethau Prydain a'r Alban ynglŷn ag amseriad a natur refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban.

Mae wedi codi cwestiynau newydd ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol.

Ar y cyrion

Mae'n annhebygol y bydd y pwnc yn codi ar yr agenda ffurfiol ond fe fydd o bosib yn rhan o'r trafod ar ymylon y cyfarfod.

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a Phrif Weinidog Yr Alban Alex Salmond ymhlith y rhai fydd yn ymuno â Carwyn Jones ac arweinwyr eraill i drafod pynciau sy'n cynnwys diweithdra pobl ifanc.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, mae taclo'r broblem yn flaenoriaeth i'w Lywodraeth ac mae'n dweud mai problemau gwledydd yr Ewro a pholisïau Llywodraeth Prydain sydd ar fai am ddiffyg swyddi i'r ieuenctid.

Yn ôl Mr Jones, mae agwedd llywodraeth Prydain tuag Ewrop yn bryder.

"Dydw i ddim eisiau gweld y Deyrnas Gyfunol yn cael ei hynysu wrth drafod dyfodol economaidd Ewrop," meddai.

"Mae bod yn aelod cryf a chanolog o'r Undeb Ewropeaidd yn allweddol ar gyfer swyddi Cymreig a denu buddsoddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol