Lluniau: Cyfri' dros nos yn isetholiad Caerffili

Fe wnaeth y blychau pleidleisio cyntaf gyrraedd Canolfan Hamdden Caerffili toc wedi 22:00. Roedd y bleidlais wedi ei chynnal yn dilyn marwolaeth Hefin David, oedd wedi cynrychioli Caerffili yn Senedd Cymru ers 2016
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n noson o ddyfalu a darogan yng Nghanolfan Hamdden Caerffili, wrth i bleidleisiau isetholiad y Senedd gael eu cyfrif.
Roedd yr etholaeth yn un o gadarnleoedd hanesyddol Llafur, ond roedd Plaid Cymru a Reform wedi ymgyrchu'n frwd.
Plaid Cymru gipiodd y sedd gyda Lindsay Whittle yn sicrhau 47% o'r bleidlais a mwyafrif o 3,848, gyda Llŷr Powell o Reform yn ail gyda 36.0%, a Llafur yn drydydd.
Roedd gogwydd (swing) o 27% o Lafur, sydd wedi dal y sedd yn San Steffan ers y 1920au ac yn y Senedd ers iddi gael ei sefydlu.
Dyma rai lluniau o'r noson.

Richard Tunnicliffe yr ymgeisydd Llafur yng Nghaerffili

Lindsay Whittle yn disgwyl am y canlyniad

Llŷr Powell oedd ymgeisydd Reform a ddaeth yn ail yn y bleidlais

Ac wedi i'r blychau gyrraedd, fe wnaeth y cyfrif gychwyn yn syth

Dau o'r ymgeiswyr sef Lindsay Whittle (Plaid Cymru) a Gareth Hughes (Y Blaid Werdd) mewn hwyliau da ar ddiwedd yr ymgyrchu. Dim ond aros allai y ddau yma a'r ymgeiswyr eraill ei wneud nawr...

Roedd 33,736 wedi bwrw pleidlais, neu 50.43% o etholwyr cymwys.
Dyma'r ganran uchaf sydd wedi pleidleisio mewn etholiad ar lefel datganoledig Cymreig erioed

David TC Davies, cyn-Ysgrifennydd Cymru yn y cyfri'. Roedd arwyddion cynnar yn awgrymu y gallai hi fod yn noson anghyfforddus i Geidwadwyr Cymru

Roedd y criw o wirfoddolwyr yn brysur wrth eu gwaith wrth i'r gwleidyddion gyrraedd y Ganolfan

Llŷr Powell, ymgeisydd plaid Reform yn cyrraedd y cyfri'. Roedd darogan cynnar yn awgrymu mai gornest rhwng Reform a Plaid Cymru fyddai'r isetholiad

Wrth aros am y canlyniad, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, bod gan Lafur wersi i'w dysgu yn dilyn yr isetholiad.
"Bydd rhaid i ni edrych yn ôl a gwrando ar yr hyn wnaethon ni glywed ar y stepen drws a symud ymlaen, achos mae 'na etholiad enfawr mis Mai flwyddyn nesaf"

Am tua 02:15, cafodd yr ymgeiswyr eu galw i'r llwyfan. Gyda mwyafrif o bron i 4,000, Lindsay Whittle o Blaid Cymru gafodd ei ethol

Wrth i'r noson fynd yn ei blaen, roedd Plaid Cymru i weld yn teimlo'n fwy hyderus. Roedd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru yng Nghaerffili i wylio'r canlyniad

Yn dilyn y canlyniad, roedd aelodau'r wasg yn eiddgar i glywed sylwadau Llŷr Powell o blaid Reform wedi iddo beidio a rhoi araith o'r llwyfan.
Roedd y ganolfan hamdden yn ganolbwynt y byd gwleidyddol dros nos, gyda nifer fawr o ohebwyr yn bresennol.

Ac wedi'r ymgyrchu, roedd cefnogwyr Plaid Cymru yn dathlu.

Erbyn 03:30, roedd y ganolfan hamdden yn wag.
Ond dim ond dechrau mae'r darogan am beth allai'r canlyniad yma ei olygu ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 awr yn ôl

