Abertawe 3-2 Arsenal

  • Cyhoeddwyd
Scott SinclairFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Scott Sinclair yn dathlu wedi iddo sgorio o'r smotyn

Abertawe 3-2 Arsenal

Roedd hi'n chwip o gêm yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul, gyda gorfoledd i gefnogwyr Abertawe ar ei diwedd hi.

Go brin y gallai Abertawe fod wedi cael dechrau gwaeth wrth iddyn nhw ildio wedi llai na phum munud.

Roedd Aaron Ramsey'n rhan o'r symudiad cyn i Andrey Arshavin ganfod Robin van Persie, a rwydodd heibio i Vorm.

Ond fe dros Ramsey ddihiryn i'w ymwelwyr ar ôl 16 munud pan loriodd Nathan Dyer yn y cwrt ac ildio cic o'r smotyn.

Sgoriodd Scott Sinclair i unioni'r sgôr, ond roedd Ramsey'n anlwcus i beidio rhoi Arsenal ar y blaen eto ddau funud yn ddiweddarach. Tasgodd ei ergyd ar draws y cwrt chwech oddi ar droed Rangel ac i freichiau diolchgar Vorm.

Roedd Vorm yn arwr eto wrth arbed cynnig van Persie am eil ail wedi hanner awr.

Drama

Roedd gwell i ddod wedi'r egwyl gydag Abertawe yn mwynhau mwyafrif y meddiant.

Daeth penllanw hynny pan aeth yr Elyrch ar y blaen. Daeth y bêl at Nathan Dyer yn y cwrt, ac fe gymrodd y cyfle i'w gwneud hi'n 2-1.

Ond megis dechrau oedd y ddrama. Gyda 68 munud wedi chwarae daeth dwy gôl o fewn munud i'w gilydd.

Theo Walcott gafodd y gyntaf i ddod ag Arsenal yn gyfartal.

Ond cyn i'r siom daro'r cefnogwyr y Liberty bron, roedd Abertawe yn ôl ar y blaen wrth i Danny Graham ganfod cornel isa'r rhwyd 45 eiliad yn ddiweddarach - 3-2.

Hwn oedd y tro cyntaf ers mis Hydref i'r Elyrch sgorio deirgwaith mewn gêm.

Yn y munudau olaf, aeth Arsenal amdani ac roedd rhaid i Vorm fod ar ei orua i arbed cynigion gan Ramsey, Rosicky a Koscielny.

Fe ddaliodd Abertawe eu gafael tan y chwiban olaf i godi i hanner uchaf tabl yr Uwchgynghrair.

Tabl yr Uwchgynghrair