Arddangosfa o atgofion bywyd mewn ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty ElaiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn dloty ac yn gartref i blant amddifad cyn troi’n ysbyty

Mae cyn-gleifion a staff Ysbyty Elai, Caerdydd yn rhannu atgofion o fywyd yn y sefydliad ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu, a hynny mewn arddangosfa newydd.

Daeth yr ysbyty yn enwog yn 1969 pan gynhaliwyd ymchwiliad i ymddygiad staff wedi i un nyrs sôn wrth bapur newydd y News of The World am gleifion yn cael eu cam-drin.

Parhaodd y sefydliad i drin pobl ag anawsterau dysgu tan y 1990au ac mae rhai cyn-breswylwyr am i bobl ifanc heddiw ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd ar y safle yn y gorffennol.

Dywedodd Karen Jeffreys ar ran Cardiff People First, grŵp ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu:

"Mae pobl yn ein grŵp yn dod at ei gilydd i sgwrsio am fywyd, a dyma ni'n sylwi bod sawl un yn sôn am eu hatgofion am Ysbyty Elai.

Atgofion

"Roedden nhw'n meddwl ei bod hi'n hen bryd nodi'r hyn a ddigwyddodd yna'n swyddogol gan fod cymaint o bobl a dreuliodd eu bywydau yna ddim wedi cael cyfle i siarad.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Maen nhw wedi ail greu tu mewn i'r ysbyty yn yr arddangosfa

"Mae'r arddangosfa hefyd i bobl ifanc ag anawsterau dysgu ddarganfod mwy am eu hetifeddiaeth. Dydyn nhw ddim wedi clywed am bobl yn cael eu hanfon i ffwrdd am flynyddoedd i'r ysbyty - wedi'r cyfan, doedd y plant yna ddim yn sâl."

Ymhlith y straeon sy'n rhan o'r arddangosfa y mae atgofion un cyn-glaf, John, oedd ddim yn cael mynd adref am y penwythnos er bod ei rieni'n disgwyl amdano wrth y dderbynfa.

Mae hefyd yn cofio rhywun yn dwyn ei anrhegion pen-blwydd.

Mae Lorraine yn cofio nad oedd byth a chael mynd ar dripiau allan o'r ysbyty, a'i bod yn cael 'nodwydd yn y pen ôl' am gamymddwyn.

Ond mae June yn cofio hwyl y pantomeim, y bwyd blasus a'r ffaith iddi syrthio mewn cariad yno.

Mae Cardiff People First am i ragor o bobl rannu eu straeon gyda nhw.

Byddan nhw hefyd yn cynnal gweithdai i drafod yr ymchwiliad yn 1968 a'r problemau oedd rhai wedi'u hwynebu wrth ddychwelyd i'r gymuned ar ôl blynyddoedd mewn sefydliad.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Amgueddfa Straeon Caerdydd tan Chwefror 28.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol