Cipolwg ar daith Capten Scott i’r Antarctig
- Cyhoeddwyd
Mae llythyrau yn ymwneud â thaith Capten Robert Falcon Scott i Begwn y De wedi dod i'r amlwg.
Archifau Morgannwg ddaeth o hyd i'r llythyrau a anfonwyd gan Wilfred Bruce, brawd-yng-nghyfraith Capten Scott a oedd hefyd ar y daith.
Mae'n union 100 mlynedd ddydd Mawrth ers i griw Capten Scott gyrraedd Pegwn y De ym 1912, ond roedd hynny bum wythnos ar ôl llwyddiant yr anturiaethwr o Norwy, Roald Amundsen.
Cychwynnodd taith Capten Scott ar fwrdd y Terra Nova o borthladd Caerdydd ar Fehefin 14, 1910.
Cafodd llythyrau Bruce eu hanfon at Lillian Knowles, rhwng mis Mawrth 1911 a mis Ionawr 1913.
Ond does neb yn gwybod beth oedd ei chysylltiad hi â Bruce.
Pwy oedd Lillian?
Mae'r Archifau yn awyddus i wybod mwy amdani hi.
"Mae'r llythyrau yn dipyn o ddirgelwch," meddai Rhian Phillips, o Archifau Morgannwg.
"Does 'na ddim son am berthynas rhwng y ddau na thystiolaeth bod Lillian erioed wedi ysgrifennu yn ôl.
"Tybed pam yr oedd o'n ysgrifennu'r hanes ati?"
Mae'r llythyrau yn rhoi cipolwg o'r daith a'r anawsterau.
Mae'r llythyrau wedi'u hysgrifennu ar bapur swyddogol y daith gyda llun o bengwin arno.
Cafodd y llythyr cyntaf ei anfon o Dir Fictoria, yn yr Antarctig ar Fawrth 7 1911.
Mae'n disgrifio mordaith y Terra Nova o Seland Newydd i'r Antartig, gan gynnwys gwyntoedd cryf oedd bron â dryllio'r llong.
Mae Bruce yn nodi bod yn rhaid i'r holl griw gael gwared ar ddŵr o'r llong a bod yr offer i gyd a phopeth yn y cabanau, gan gynnwys eu dillad, wedi gwlychu.
Aiff ymlaen i ddisgrifio cyrraedd y lan a dadlwytho'r cyflenwadau yn McMurdo Sound ac ymosodiad gan forfilod ffyrnig oedd yn fygythiad i Herbert Ponting, ffotograffydd y daith.
Cysylltiad Caerdydd
Ysgrifennwyd y llythyr olaf ar Ionawr 24 1913 gyda'r teitl 'Am adref' ar ôl colli Capten Scott a'r criw.
Mae Bruce yn disgrifio'i deimladau a'r rhesymau dros yr hyn ddigwyddiad ac mae'n cynnwys cerdd gan Dr Edward Wilson, un o'r rhai a fu farw.
Derbyniodd yr Archifau y casgliad ym 1986 gan Gymdeithas Capten Scott a oedd wedi eu derbyn gan deulu Ms Knowles.
"Rwy'n falch iawn bod dogfennau'n ymwneud â'i daith yn cael eu cadw yng Nghaerdydd, yn arbennig gan fod Scott a'i griw wedi hwylio oddi yma ar y Terra Nova," meddai Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Nigel Howells.
"Mae'r llythyrau'n gipolwg diddorol ar y daith ac mae'n dod â digwyddiad hanesyddol yn fyw."
Mae'n bosib i bobl weld y llythyrau gan wneud cais i ystafell llythyron yr archifau yn Lecwydd, Caerdydd.