Tai: 'Angen cynllun cynaliadwy'

  • Cyhoeddwyd
Tai yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhestr aros am gartrefi yng Nghaerdydd ar gynnydd

Mae elusen Shelter Cymru wedi croesawu cynllun Cyngor Caerdydd i godi hyd at 1,000 o dai newydd ond yn rhybuddio bod rhaid i'r cymunedau fod yn gynaliadwy.

Bydd 40% yn dai cyngor a 60% yn dai preifat.

Mae oddeutu 12,000 o bobl ar restr aros y ddinas ac mae datblygiadau preifat wedi cael eu cwtogi yn y blynyddoedd diweddar.

Credir fod tua 30 o safleoedd tir brown o dan ystyriaeth ar gyfer y cynllun gwerth £33 miliwn.

Dywedodd yr elusen ei bod hi'n bwysig datblygu cymunedau lle oedd pobl eisiau byw ac ail-feddianu tai gwag.

Mae'r cyngor yn gobeithio bydd y cynllun yn golygu 250 o swyddi.

'Calonogol iawn'

Dywedodd John Puzey, cyfarwyddwr Shelter Cymru, fod unrhyw ateb i'r "diffyg dychrynllyd" o dai fforddiadwy yng Nghymru i'w groesawu.

"Mae yr un mor bwysig i ddatblygu cymunedau lle mae pobl eisiau byw ac a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir," meddai.

"Felly mae'n galonogol fod rhan o'r cynllun yn canolbwyntio ar adnewyddu stadau tai sydd eisoes yn bodoli.

"Yn y cyfamser, byddwn hefyd yn annog Cyngor Caerdydd i barhau i weithio i ddod â thai sydd wedi bod yn wag ers tro yn ôl i ddefnydd pobl.

"Gall tai gwag gael eu defnyddio yn gyflym ac yn gymharol rad i ateb y galw am gartrefi yn lleol."

Bydd yr awdurdod yn gweithio gyda datblygwr tai fel partner yn y fenter i ddarpau tai newydd i'r farchnad agored, gan gynnwys rhai fforddiadwy i'r bobl sy'n prynu am y tro cyntaf.

Rhybudd

Ond daeth rhybudd gan y cynghorydd Llafur Ralph Cook y dylai'r awdurdod fod yn ofalus rhag ofn y byddai mwy o wahaniaeth rhwng ardaloedd cyfoethog a rhai tlawd.

"Mae'r cynllun yn golygu cael gwared â thir y cyngor ar draws y ddinas," meddai.

"Bydd y datblygwyr preifat yn dadlau y dylai'r tai sy'n cael eu gwerthu fynd i'r ardaloedd gorau, gyda'r ardaloedd mwy difreintiedig yn cael mwy o dai cymdeithasol.

"Yn fy ardal i, Trelái, rydym yn gweld 50% o dai cymdeithasol a 50% yn breifat.

"Argymhellion y llywodraeth yw 30% o dai cymdeithasol a 70% yn breifat."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol