Cyfres sy'n datgelu dros 30,000 mlynedd o hanes Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cyfres deledu newydd yn trafod hanes Cymru a'r genedl o'r dyddiau cynhara', 30,000 mlynedd yn ôl hyd heddiw.
Huw Edwards sy'n cyflwyno'r rhaglen, The Story of Wales, gan BBC Cymru, sydd wedi ei disgrifio fel "un uchelgeisiol".
I gyd fynd â'r gyfres chwe rhan a fydd i'w gweld ym mis Chwefror, bydd digwyddiadau a rhaglenni eraill yn cael eu cynnal.
Mae Gweinidog Treftadaeth Cymru, Huw Lewis, yn gobeithio y bydd y gyfres yn cynnau diddordeb newydd yn hanes Cymru a'i diwylliant.
Dywedodd Mr Edwards bod dewis pynciau ar gyfer y gyfres "yn dipyn o her".
"Mae rhai pethau amlwg, fel marwolaeth Llywelyn, methiant Gwrthryfel Glyndŵr a llwyddiant y diwydiant glo yn y 19eg Ganrif.
Addysgu
"Maen nhw'n ddigwyddiadau mawr sydd wedi cael effaith ar bobl.
"Beth am William Morgan a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg? Mae'n ddigwyddiad diwylliannol enfawr yn hanes Cymru.
"Mae 'na bethau y mae angen eu nodi."
Mae Mr Edwards wedi teithio ar draws Cymru wrth baratoi'r gyfres ac mae'n cyfadde' iddo ddysgu pethau ar hyd y ffordd.
"Wydden ni ddim bod 'na waith cloddio coper ar y Gogarth 4,500 mlynedd yn ôl," meddai.
Fe fydd y gyfres yn cychwyn gyda'r gladdedigaeth gynhara' y gwyddom amdani yng ngorllewin Ewrop, bron i 30,000 mlynedd yn ôl, hanes 'Dynes Goch Pen-y-fai'.
Wrth lansio'r gyfres yn Amgueddfa Cymru Sain Ffagan ddydd Iau, cafodd cyfres o weithdai eu cynnal i gyd-fynd â'r rhaglenni.
Fe fydd gwefan Casgliad y Werin Cymru - lle mae modd i unrhyw un rannu eu lluniau a'u straeon - chwilio am ddeunydd ychwanegol a fydd yn cyfoethogi'r wefan a'r gyfres.
Eicon
Mae'r Brifysgol Agored hefyd yn gwahodd pobl i enwebu eu heiconau o Gymru.
Mae'r digwyddiadau yma yn rhan o'r broses i gael mwy o bobl i siarad am eu hanes.
Bydd BBC Cymru hefyd yn darlledu rhaglenni ychwanegol.
Mae Radio Cymru yn darlledu cyfres Hanes yn y Fantol, sy'n daith gronolegol o'r genedl wrth i Radio Wales ddarlledu rhaglenni a fydd yn edrych ar bynciau penodol fel radicaliaeth, ymfudo, y teulu a'r rhyfel.
Bydd cyfres deledu ar bedair o drefi Cymru, Pontypridd, Casnewydd, Bangor ac Aberteifi.
Green Bay Media sydd wedi gwneud y gyfres ar ran BBC Wales mewn partneriaeth a'r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Fe fydd y gyfres yn cychwyn ddydd Llun Chwefror 27 ar BBC1 Cymru am 9pm.