Rhoi organau: Eglwys yn trefnu dadl am gydsyniad tybiedig

  • Cyhoeddwyd
Archesgob Cymru, y Dr Barry MorganFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn mynegi safbwynt: Archesgob Cymru

Mae dadl gyhoeddus am foesoldeb cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Am 2pm mae'n dechrau yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn Yr Ais a'r trefnwyr yw'r Eglwys yng Nghymru.

Yno mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan; Roy Thomas, Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Arennau Cymru a Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn mynegi eu safbwynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn mudiadau ac unigolion am eu cynigion tan ddiwedd y mis ac mae'r archesgob o blaid eu dileu.

Y llynedd rhybuddiodd y gallai'r cynigion droi "gwirfoddolwyr yn rhai oedd yn cael eu gorfodi".

Rhodd

Dywedodd y dylai organau fod yn rhodd i eraill nid yn "ased i'r wladwriaeth."

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud y dylai pobl ystyried cwestiynau moesol, gan gynnwys:

  • Beth yw ein barn am bwysigrwydd y corff dynol hyd yn oed wedi marwolaeth?

  • Pwy sydd â'r hawl i benderfynu sut y bydd y corff yn cael ei drin?

  • Pa mor bwysig yw egwyddor rhoi anhunanol pan ddaw i arbed bywyd?

  • A yw perthynas y wladwriaeth gyda'r unigolyn yn newid os oes tybiaeth fod ein horganau ar gael i'w rhi?

  • Beth sydd gan y ffydd Gristnogol i'w ddweud am hyn i gyd - ac a yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?

Dywedodd y Parchedig Carol Wardman o'r Eglwys yng Nghymru: "Byddai'r rhan fwya o bobl yn hapus iawn i'w horganau gael eu defnyddio ar ôl eu marwolaeth er budd rhywun arall.

"Ond dim ond tua 30% ohonon ni sy'n ymuno â'r gofrestr rhoi organau.

"Dyna pam bod Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu defnyddio organau ar gyfer eu trawsblannu os nad yw'r person wedi mynegi gwrthwynebiad.

"Mae proses ymgynghori y llywodraeth yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol y system arfaethedig."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol