Storm Benjamin i ddod â gwynt a glaw i Gymru ddydd Iau

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion mewn grym ar gyfer y mwyafrif o Gymru a Lloegr ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wynt a glaw ar gyfer gwahanol rannau o Gymru ddydd Iau, wrth i Storm Benjamin daro'r Deyrnas Unedig.

Bydd rhybudd melyn am law yn dod i rym am 00:00 fore Iau ar gyfer nifer o siroedd y de, fydd yn parhau tan 21:00.

Mae'n weithredol ar gyfer siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd gall hyd at 30mm o law ddisgyn dros gyfnod o ychydig oriau fore Iau, a hyd at 50mm mewn rhai ardaloedd, gan achosi amodau peryglus ar ffyrdd, a phosibilrwydd o lifogydd.

Mae rhybudd arall am wyntoedd cryfion ar gyfer siroedd y gorllewin - Abertawe, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Penfro ac Ynys Môn.

Bydd yn dod i rym am 06:00 fore Iau ac yn parhau tan 15:00.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd gyrraedd cyflymder o 45mya, gyda phosibilrwydd y gallai gyrraedd 55mya ar hyd yr arfordir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig