Clwb Pêl-droed Abertawe yn cyhoeddi colledion o £8.2m

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Abertawe yn dathlu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Pêl-Droed LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Abertawe yn dathlu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Pêl-Droed Lloegr ond mae wedi arwain at golled o £8.2 miliwn

Dywedodd Clwb Pêl-Droed Abertawe bod ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Pêl-Droed Lloegr wedi cyfrannu at golled o £8.2 miliwn am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar Fai 30 2011.

Llwyddodd Yr Elyrch i gyrraedd yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Reading o 4 gôl i 2 yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn Wembley ym mis Mai'r llynedd.

Taliadau bonws a thaliadau trosglwyddiadau oedd ymhlith y rhesymau am y colledion.

Ond dywedodd bwrdd y clwb y dylai incwm o'u tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair ganslo'r colledion y flwyddyn nesaf.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd bod cyllideb 2011/12 wedi eu strwythuro yn y modd yma er mwyn cynnal clwb pêl-droed a oedd yn ariannol sefydlog.

"Tra bod y cyfrifon yn datgelu colled ar ôl treth o £8.2 miliwn, nad oedd modd ei osgoi ar ôl ei buddugoliaeth yn Wembley, fe fydd nifer sylweddol yr arian o'r Uwch Gynghrair yn caniatáu ein bod yn gallu talu'r ddyled yn ôl yn y flwyddyn ariannol bresennol."

Ond dywed y bydd y cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaw i ben ar Fai 31 2012 yn cael ei effeithio gan gostau gweinyddol o fod yn yr Uwch Gynghrair, yn benodol cyflogau.

"Wrth edrych tua'r dyfodol, ein blaenoriaeth yw i gadw'n safle yn yr Uwch Gynghrair."

Oherwydd rheolau mae clybiau sy'n codi o'r Bencampwriaeth yn gorfod rhoi arian i'r clybiau aeth o'r Bencampwriaeth ac fel enillwyr gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth chafodd Yr Elyrch ddim canran o arian tocynnau o dan reol arall.

Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, gwnaeth y tîm elw o bron i £600,000.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol