Barnwr yn caniatáu datblygu Parc y Strade
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yr Uchel Lys wedi caniatáu datblygu Parc y Strade yn Llanelli.
Yn 2007 roedd y datblygwyr Taylor Wimpey wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer codi 355 o dai.
Ond roedd ymgyrchwyr yn ddadlau bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi torri rheolau amgylcheddol.
Gadawodd tîm Scarlets Llanelli Barc y Strade ym mis Hydref 2008 a mynd i'w cartref newydd, Parc y Scarlets.
Cafodd y cais cynllunio ei alw mewn gan Lywodraeth Cymru, ond penderfynwyd o blaid rhoi hawl cynllunio.
Ym mis Ionawr eleni, penderfynodd yr Uchel Lys nad oedd yna sail ar gyfer adolygiad barnwrol.
Nawr mae'r Llys Apel wedi ategu'r penderfyniad.
Colli enillion
Ym mis Ionawr dywedodd y barnwr Milwyn Jarman QC ei fod yn gwrthod yr honiadau canlynol - bod y cyngor wedi torri rheolau cynefin, bod pennaeth cynllunio'r cyngor wedi mynd y tu hwnt i'w awdurdod, a bod y cyngor wedi methu dilyn ei bolisïau llifogydd ei hun.