Siôn Jenkins: Y stori am ryw sy' wedi aros yn y cof

- Cyhoeddwyd
"Mae 'na dueddiad yng Nghymru, yn enwedig ymysg y Cymry Cymraeg, bod ni'n byw yn ein byd bach ein hunain a bod popeth yn grêt – mae 'na agwedd bod pethau 'brwnt' fel hyn ddim yn digwydd yng Nghymru."
Mae'r newyddiadurwr Siôn Jenkins wedi gweithio ar sawl stori fawr yn ei yrfa, ond un o'r rhai mwyaf cofiadwy oedd stori am y diwydiant rhyw yng Nghymru pan oedd yn newyddiadurwr ifanc.
Mae Siôn newydd rannu'r stori tu ôl ei waith ar stori 'lle i fyw am ryw' mewn cyfrol newydd o straeon gan rai o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Fy Stori Fawr Arall. Yn y gyfrol mae 12 o newyddiadurwyr, gan gynnwys Vaughan Roderick a Helen Llewelyn, yn sôn am stori fawr yn eu gyrfa oedd wedi creu argraff ddofn ar eu bywydau.
Bu Siôn yn rhannu gyda Cymru Fyw pam fod y stori am y diwydiant rhyw ar gyfer rhaglen Ein Byd ar S4C mor bwysig i'w yrfa.
Meddai'r cyflwynydd, sy'n dod o Landysilio yn Sir Benfro: "Erbyn hyn, pan mae pobl yn gofyn i fi am fy ngyrfa i, y cwestiwn dwi'n cael mwy na unrhyw beth arall yw 'sut mae Mrs Jones?'
"Mae'r rhaglen a'r stori wedi sticio gyda pobl."
Mrs Jones oedd y gyn-athrawes yn ei 60au oedd Siôn yn cyfweld yn y rhaglen am ei gwaith yn gwerthu rhyw. Roedd y rhaglen hefyd yn edrych ar bwnc 'lle i fyw am ryw' gyda'r tîm o newyddiadurwyr yn cysylltu ar-lein gyda dynion oedd yn chwilio am denantiaid i rentu ystafell neu dŷ ganddynt i'w gyfnewid am ryw.
Meddai Siôn, sy'n cyflwyno Y Byd ar Bedwar a Pawb a'i Farn: "Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar sawl stori ddifyr dros y ddegawd diwethaf, a sawl stori dramor – ond yn sicr oedd y stori yma yn dod i'r cof yn syth achos y pwnc – ond hefyd achos yr hyn wnaethon ni lwyddo i ddatgelu yn y rhaglen a bod y rhaglen wedi ennill gwobrau."
Enillodd y rhaglen wobr Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn yn 2019 yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru.

Ein Byd yn ennill gwobr Rhaglen Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn yn 2019 yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru
Roedd hi'n un o'r rhaglenni cyntaf yn y gyfres Ein Byd ar S4C.
Meddai Siôn: "O ran y newyddiaduraeth dwi'n ei wneud dwi'n credu fod pobl wedi cael blas go iawn bod fi ishe gwthio ffiniau a mynd i edrych mewn i bethau dyw pobl ddim wedi edrych mewn iddyn nhw.
"Edrych mewn i gorneli cudd cymdeithas oedd tagline Ein Byd – ac oedd y gornel honno yn sicr yn gornel cudd.
"Yng Nghymru mae tueddiad gyda ni i feddwl fod pethau fel 'na ddim yn digwydd ac o'n i ishe dangos i bobl fod pethe fel hyn ddim jest yn digwydd yn ninasoedd mawr Lloegr ond yng Nghymru ac yn y Gymraeg.
"Roedd hi'n anodd i neud y rhaglen achos dau beth wahanol. Mae'r stori am Mrs Jones yn eitha' ysgafn ond 'nath y stori rhyw am rent greu gymaint o sioc. Doedd ddim un rhaglen yn Nghymru wedi edrych i mewn i'r pwnc 'ma o'r blaen.
"Oedd pobl wedi cael sioc bod hyn yn digwydd yma.
"Ac oedd dangos y ddwy ochr 'na i'r diwydiant rhyw – roedd Mrs Jones yn neud e o'i gwirfodd ond ar yr ochr arall mae gyda ti grŵp o fenywod sy'n byw mewn amgylchiadau anodd iawn.
"Doedd e ddim yn rhywbeth oedden ni o reidrwydd wedi gweld o'r blaen yng Nghymru.
"Dwi'n prowd iawn o'r rhaglen a'r gwaith wnaeth y tîm roi mewn iddi."

Un o gydweithwyr Siôn, sef Siân Thomas, oedd yn gyfrifol am gysylltu ac am fagu perthynas ar-lein gyda rhai o'r dynion oedd yn chwilio am denantiaid i dalu am rhent drwy rhyw. Bu'n anfon negeseuon am fisoedd at rai o'r dynion yma gan esgus ei bod hi'n chwilio am le i fyw.
Meddai Siôn: "Mae edmygedd mawr gyda fi i Siân. Ti'n mynd a stori fel hon gartre 'da ti, ti wastad yn meddwl amdani.
"Ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu o'n ni'n cael ceisiadau gan gwmnïau teledu mewn gwledydd fel Yr Almaen a China am gopi o'r rhaglen – oedd y stori wedi cyrraedd y gwledydd eraill 'ma."
Y cam nesaf oedd i Siân gyfarfod â'r dynion gyda gweddill y tîm yn agos ac yn ffilmio cyn i Siôn gamu mewn i gyfweld y dynion.
Meddai: "Fel gyda bob tro ti'n neud rhyw fath o doorstep mae 'na wastad risg bod rhywun yn troi'n dreisgar.
"O'n i bendant yn nerfus ond dwi'n cofio yr adrenaline a bod yn ymwybodol bod job o waith gyda fi i wneud.
"Mae'n rhaid i ti gael e'n iawn y tro cynta'. 'Nath e gymryd lot o gydweithio gyda Siân a'r cynhyrchydd. Oedden ni'n recordio pethau ar ddyfeisiau fel allweddi car felly oedd lot o gyfathrebu o fewn y tîm.
"Mae lot o risg ond ti'n neud e'n iawn o ran dala rhywun mas yn neud rhywbeth ddylen nhw ddim wedi bod yn neud."
Yn ôl Siôn roedd hi'n amlwg fod y ddau ddyn yn teimlo cywilydd i gael eu dal ar gamera yn ceisio trefnu lle i fyw am ryw: "Pan 'nes i gyflwyno fy hun a dechrau cwestiynu y dyn cynta' dwi'n cofio gweld ei wyneb e a gweld yr ofn a'r cywilydd 'ma yn golchi dros ei wyneb e.
"'Nath y ddau ddyn rhedeg bant unwaith i fi daflu cwestiynau at nhw. Oedden nhw'n gwybod bod nhw wedi neud rhywbeth dylen nhw ddim wedi neud."
Mae'r stori hefyd yn bwysig i Siôn am fod e'n adlewyrchu Cymru gyfoes: "Mae ishe dangos i bobl yng Nghymru a rhoi siglad iddi nhw fod pethau fel hyn yn digwydd. Mae ishe rhyw fath o reality check.
"Dyna yw'n gwaith ni fel newyddiadurwyr yw datgelu pethau sy' ddim o reidrwydd yn hysbys i bob un."
Gallwch glywed mwy am y gyfrol newydd Fy Stori Fawr Arall yn Iard y Brenin, Pontcanna ar nos Iau Medi 25.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Medi