Dartio 100,000 pwynt yn Llanuwchllyn i gefnogi claf canser

O'r chwith: Cai, Cadi, Idris, Huw ac Osian wedi'r sialens
- Cyhoeddwyd
Bu taflwyr dartiau Llanuwchllyn yn hynod o brysur ddydd Sadwrn a hynny er mwyn cefnogi claf sydd wedi cael diagnosis o ganser yn ddiweddar.
Nod y ddau griw, Eagles A ac Eagles B, oedd un ai cyrraedd y targed uchelgeisiol o gael 100,000 pwynt neu chwarae am 12 awr gyfan yn nhafarn yr Eryrod - gan ddechrau am 12:00.
Cai Guest Rowlands oedd trefnydd y digwyddiad a hynny er mwyn codi pres at elusen Macmillan, fel modd o ddangos cefnogaeth i ddyweddi ei chwaer - Huw Jones - a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd.
Dywedodd Huw, sy'n 33 oed ac yn wreiddiol o Gorwen, fod o'n "rili neis fo' nhw 'di mynd allan o'u ffordd i hel pres" yn ei enw.

Dyma'r criw fu'n chwrarae'r dartiau
Cafodd Huw wybod fod ganddo cholangiocarcinoma fis Medi'r llynedd - math o ganser prin sy'n dechrau yn nwythellau'r bustl [bile ducts] ac sy'n effeithio ar yr iau.
Mae'r canser "hefo canran uchel i ddod 'nôl - tua 47%," meddai Huw ac mae wedi lledaenu i'w ysgyfaint ac ymhellach.
"O'n i'n nofio yn Llyn Tegid ben bore llynedd, yn trainio ar gyfer triathlon, a dyna pryd 'nes i ddechrau teimlo wbeth yn brifo yn y torso," meddai Huw.
Fe wnaeth ganfod lwmp wedi hynny - gan feddwl mai torgest [hernia] oedd yno i ddechrau ac felly aeth i weld meddyg.
Esboniodd y byddai cael diagnosis wedi gallu bod yn broses hir iawn, felly aeth yn breifat, cael sgan MRI a chael canlyniad ymhen ychydig wythnosau.
"O'n i'n gwybod fod o ddim am fod yn ganlyniad da," meddai Huw, gan ddweud fod ymateb y meddygon wedi awgrymu hynny.
"O'dd y canser wedi spreadio'n barod ac oedd hynny'n dipyn o ergyd, achos o'dd Cadi yn disgwyl babi adeg hynny - rhyw 16/17 wythnos i mewn."

Cai (dde) gyda Huw, Cadi ac Idris
Rhyw fis yn ddiweddarach cafodd Huw wybod fod y canser wedi gwasgaru i bob man yn ei stumog.
"Natho' nhw ofyn os o'n i isho'i adael o a g'neud dim byd, ond oedd Cadi yn disgwyl ers tua 20 wythnos," meddai.
Gan ei fod eisoes hefo colitis [llid y colon], roedd hynny hefyd yn cyfyngu'r triniaethau oedd ar gael iddo.
"Cemo oedd yr unig opsiwn" - a dyna wnaeth Huw am gyfnod, gan fyw gyda sgil effeithiau trwm y driniaeth.
Ond doedd un tiwmor yn ei fol ddim yn ymateb i'r cemotherapi, gan achosi i'w ystumog chwyddo a chau'r bibell.
"D'on i methu b'yta, yfed na dim byd. Ges i emergency stent lawr 'ngwddw, i gadw o ar agor.
"Dwi 'di cael lot o bethe'n mynd yn wrong - gorfod cael steroids at colitis fi, dwi 'di cael sepsis fwy nag unwaith a methu cadw bwyd a diod i lawr."

Y criw yn cyrraedd 10,000 ddydd Sadwrn
Ar ôl hynny daethant, fel teulu, o hyd i driniaeth arbrofol newydd o America.
Bu'n rhaid i Huw aros am fis cyn mynd ar y treial, oherwydd "problemau hefo'r deliveries" - gan achosi i'r canser "chwyddo a'r poen i fynd yn waeth".
"Ond, unwaith 'nes i gychwyn ar y drug newydd 'ma, oedd y gwahaniaeth yn instant – gallu g'neud mwy o bethau fel beicio, gwaith rhan amser a 'neud pethe hefo teulu, sy'n neis."
Dywedodd hefyd fod maint y canser wedi mynd yn llai yn sgil y driniaeth newydd, "o wyth centimetr i tua pedwar centimetr".
"Dwi'n goro mynd i Lundain i gael triniaeth pob pythefnos a scans bob tri mis, achos fod y drug ddim yn fully approved ar y funud - dim ond trials."

Mi feiciodd Huw 56 milltir yn ddiweddar, gyda'i nyrs a'i dad
Ddyddiau cyn diwrnod y dartiau, esboniodd Cai Rowlands strwythur y marathon.
"De' ni'n anelu am 100,000 o bwyntie, neu gario 'mlaen i chware darts am 12 awr ynde - os na fydd y targed yn bosib.
"Ma'n siŵr y bydden ni'n cymryd troeon wrth y bwrdd darts a rhannu i fyny," meddai.

Aeth Cadi ac Idris, eu mab, i gefnogi Huw ar y daith feicio ddechrau Medi
"Ma'r syniad 'ma - o her 100,000 yn r'wbeth ma' Macmillan yn gynnig i bobl neud, er mwyn codi pres," meddai Cai.
Dywedodd Cadi Guest Rowlands, cariad Huw, ei fod yn deimlad braf fod Cai, ei brawd hŷn, wedi trefnu'r diwrnod a bod Osian, ei hefaill, hefyd yn mynd i fod yn rhan o'r marathon dartiau.
Ychwanegodd Cadi fod cynnal y digwyddiad "yn lleol, lle ma' pawb yn 'nabod ni, yn reit neis".

Huw a'i dad
Yn ddiweddar bu Huw ei hun yn gwneud her i godi pres, sef beicio 56 milltir gyda'i dad ac un o'r nyrsys o Lundain sy'n rhoi cymorth iddo.
Fe lwyddon nhw i godi dros £6,000 i ddau achos - elusen AMMF [The Cholangiocarcinoma Charity] a'r ysbyty yn Llundain lle mae Huw wedi bod yn derbyn triniaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl