Oriel luniau: Ironman Cymru 2025

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth tua 2,700 o bobl gystadlu yn Ironman Cymru 2025 ar 21 Medi yn y ras hynod heriol sy'n mynd drwy rai o ardaloedd prydferthaf Cymru.

Gan gychwyn yn nhref liwgar Dinbych-y-pysgod, rhaid nofio 2.4 milltir yn y môr, seiclo 112 milltir o amgylch cefn gwlad Sir Benfro, a gorffen drwy redeg marathon llawn 26 milltir o bellter.

Llongyfarchiadau i bawb wnaeth fentro, ac yn enwedig i enillwyr eleni - Lewis Eccleston a Franziska Hofmann.

Tyrfaoedd yn ymgasglu ar gyfer dechrau ras Ironman ar Draeth y GogleddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn ymgasglu ar gyfer dechrau ras Ironman ar Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod

NofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aros i'r ras gychwyn

Dechrau'r ras nofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

I mewn i'r dŵr!

Pobl mewn siwtiau gwlybFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dilyn y don

Dyn yn rhedegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y pwynt trawsnewid cyntaf - o'r nofio i'r cwrs beicio

SeicloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffeindio ffordd trwy'r dorf...

SeicloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mynd ffwl pelt!

SeiclwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyfal donc!

Dyn yn rhedeg
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eiliad o lonydd yn Ninbych-y-pysgod

Menyw yn rhedegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cam olaf!

Franziska Hofmann yn cyfarch y dorfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Franziska Hofmann, enillydd ras y menywod, yn cyfarch y dorf

Lewis Eccleston yn ennillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lewis Eccleston yn ennill ras y dynion

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.