Pwyll yn byw'r freuddwyd drwy hedfan awyrennau

- Cyhoeddwyd
Dydy Pwyll Brynach ddim yn cofio pryd a sut y penderfynodd ei fod eisiau bod yn beilot pan oedd yn tyfu i fyny, ond dyna beth mae wedi bod eisiau ei wneud erioed.
A bellach, mae'r dyn ifanc o Gaerdydd yn gweithio o Fryste fel peilot i gwmni hedfan EasyJet, ac yn cael gweld y byd oddi fry. Dyma ei stori:

Pwyll newydd lanio ar ôl hedfan o Venice
Mae e jyst yn rhwbeth dwi wastad wedi mo'yn 'neud.
Pan o'n i tua 13, nes i gwrdd â boi arall o Gaerdydd – Jâms Powys – sy'n beilot, sydd wedi bod fel mentor i mi. Es i i'r un ysgol hedfan â fe, so dwi'n dilyn ei ôl troed e rili.
'Nes i adael yr ysgol ar ôl Lefel A yn 2019, ac achos Covid, 'nes i weithio am flwyddyn a hanner.
Wedyn es i i'r ysgol hedfan yn Gatwick am naw mis o ddysgu yn y dosbarth i ddysgu'r holl theori. Pethau fel meteoroleg, perfformiad, fel sut mae'r adenydd yn creu lift a beth yw drag.
Cyfraith yr awyr, sydd ychydig fel theori gyrru car – os oes dau awyren yn dod at ei gilydd ma'r ddau'n troi i'r dde er enghraifft. A chyfathrebu, gan fod peilotiaid yn siarad gydag air traffic control mewn strwythur penodol.
Roedd ganddon ni 13 arholiad, a ti angen eu pasio nhw i gyd. A dim ond wedyn ti'n gallu dechrau hedfan, ac es i mas i Phoenix, Arizona i 'neud hynny.

Ei olygfa o Dde Ddwyrain Phoenix o'r awyr wrth hyfforddi yn 2023
Ti ond wir yn dysgu sut mae hedfan pan ti'n cael hedfan. Felly ti'n gallu ei ddysgu e mewn llyfrau, ond pan ti'n dechrau, mae'n teimlo fel bo' ti'n ôl ar dy ddiwrnod cynta' eto, achos does gen ti ddim clem sut mae hedfan!
O'dd 20 ar ein cwrs ni, a dwi'n credu mai 15 'nath orffen e a chael job. Mae rhai pobl yn ffeindio bod nhw'n dda ar y theori, ond dim wir efo'r hand-eye co-ordination.
Roedd cael hedfan am y tro cynta' yn deimlad hollol hudol. Roedd e'n dilyn naw mis o waith caled, ac o'dd e'n deimlad rili arbennig.
Mae'r awyren yn fach - un propeller ar y ffrynt ac un set o adenydd - ond mae'n teimlo'n anferth pan ti'n dechrau.
Ti'n dechre yn mynd lan gydag hyfforddwr, ac maen nhw'n gwneud yr hedfan a ti'n dilyn nhw ar y controls. Felly cwpwl o hediadau rownd yr anialwch, i gael teimlad amdano fe.
Yna ti'n hedfan rownd, ac yn gneud lot o circuit training, sef hedfan dros y maes awyr mewn cylchoedd a gwneud lot o take-offs a glanio.
Wedyn ti'n cael mynd lan ar dy ben dy hun, sef y first solo – un cylch dros y maes awyr a glanio eto – roedd hwnna reit cŵl. O'dd hwnna tua pythefnos ar ôl cyrraedd Phoenix, felly roedd e reit glou.
Yna nôl i Brydain i weithio tuag at y drwydded peilot masnachol. 'Nes i orffen popeth ddiwedd 2023, a dwi'n gweithio gydag EasyJet ers Tachwedd 2024.
Fideo timelapse gan Pwyll o'r awyren wrth lanio mewn i Antalya, Twrci. "Wedi ei ffilmio yng Ngorffennaf ar ôl hediad o dros bedair awr o Gaeredin gyda golygfeydd o'r cockpit o'r cruise dros orllewin Twrci yr holl ffordd lawr dros Môr y Canoldir i lanio."
Erbyn hyn, dwi'n hedfan Airbus A320, gyda tua 186 sedd. Mae'n pwysau ni ar take-off ar gyfartaledd tua 70 tunnell.
Y gwahaniaeth mwya' mae'n siŵr pan ti'n hedfan awyren bach ydy bod un person yn gallu gneud popeth. Pan chi'n yr awyren fawr, mae wastad dau berson yn y cockpit. Fi ar hyn o bryd yn First Officer a wedyn ma' Capten yn eistedd ar y chwith a ni'n dau yn gweithio gyda'n gilydd.
Mae'r botwm autopilot yn un pwysig, a phan ni'n cruise-io mae'n reit relaxed; rydyn ni'n monitro pethau, ond does yna ddim llawer i'w wneud. Mae'r action i gyd yn digwydd ar y codi a'r glanio.
Ond mae adegau yn yr hediad lle ti wir angen bod yn switched on. Does dim ymlacio, ti angen canolbwyntio.
Ni'n edrych mas am stormydd. 'Naeth 'na lot ddigwydd dros yr haf, fel lot o stormydd dros Paris; chi'n trafod a thrio penderfynu i droi i'r dde neu i'r chwith rownd y cymylau.
Ym mis Ionawr, roedd stormydd rili gwael, ac roedd rhybuddion coch yn yr Alban a gwyntoedd gwyllt. Roedd yr awyrennau o'n blaenau ni yn glanio i Gaeredin wedi trio ac yn gorfod codi eto. 'Naethon ni lanio yn iawn ond roedd lot o plane spotters yna yn ffilmio ni a phobl yn ein dilyn ni ar y radars.

Pwyll (dde) gyda'i frawd Amig, sy'n 18 ac yn dechrau ysgol hedfan yn Rhydychen fis Hydref. Cafodd y llun ei dynnu ar ôl i Pwyll hedfan ei deulu o Fryste i Gaeredin
Dwi'n gneud hediadau tua dwy awr, dwy awr a hanner o hyd. Dwi'n hedfan i Dwrci weithiau, sydd tua pump awr, ac mae hynny'n lot o eistedd lawr!
Am nawr, dwi'n hapus i sticio at y rhai byr fel Paris a Belfast, ond falle yn y dyfodol a i mewn i rai hirach a chael cyfle i weld y byd.
Dwi'n gwneud tua pedair hediad y dydd – falle i Madrid ac yn ôl yna i Paris ac yn ôl. Y diwrnod wedyn i Malta.
Mae hyd shifft yn amrywio; mae'n dibynnu ar hyd y daith, ond wedyn os ydy'r gwynt o ryw gyfeiriad mae'r hediad am fod yn hirach, neu gyfyngiadau air traffic control achos staffio neu dywydd gwael.

Golygfa o Llundain wrth adael Gatwick
'Dy ni'n gweithio rhyw dri i bedwar diwrnod ar y tro wedyn yn cael dau i dri diwrnod i ffwrdd.
Pan mae amser i ffwrdd, ti angen rili ymlacio ac adfer dy nerth. Mae angen edrych ar ôl dy hun, bwyta'n dda a gwneud ymarfer corff, achos ti'n eistedd i lawr lot!
Mae pob dydd yn wahanol, achos fod popeth yn dibynnu ar y tywydd, y teithwyr ac air-traffic control. A ti'n cael adrenaline rush masif pan ti ar ben yr hedfa a gweld stretsh hir o concrit o dy flaen. Does dim un dydd sy'n ddiflas.

Istanbul yn y nos ar y ffordd nôl o Antalya
A ni'n gweld golygfeydd ffantastig bob dydd. Dwi 'di hedfan mas o Gatwick dipyn, a chi'n gallu hedfan reit dros Lundain a gweld popeth - London Eye, Buckingham Palace, Big Ben.
Dwi'n cofio hedfan mewn i Paris a gweld Tŵr Eiffel wedi ei oleuo lan, o'dd reit cŵl. Wedyn hedfan mewn i Dwrci a gweld yr haul yn machlud... hyfryd.
Mae lot o bobl yn dweud ein bod ni'n gweithio yn swyddfa orau'r byd. Ac mae'n cliché, ond mae'n wir!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin