Addysgu plant mewn neuadd bentref dair blynedd wedi tân mewn ysgol

Ysgol Maenorbyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi bron yn dair mlynedd ers i dân ddifrodi Ysgol Maenorbŷr

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael eu cyhuddo o dorri addewidion ac o fethu disgyblion mewn ysgol gafodd ei difrodi gan dân difrifol dair blynedd yn ôl ac sydd bellach o dan fygythiad o gau.

Mae disgyblion Ysgol Maenorbŷr wedi cael eu haddysg mewn neuadd bentref ers y tân ym mis Hydref 2022.

Mae rhieni wedi cyhuddo'r cyngor o "fethu'r gymuned a'r plant" ac o dorri'r addewidion i ailadeiladu'r ysgol.

Gwrthododd aelodau'r cabinet gais am gyfweliad ond dywedodd y cyngor y byddan nhw yn "ystyried pob safbwynt" wrth gynnal ymgynghoriad.

Dieseb
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar wefan y cyngor yn galw ar yr awdurdod i ailadeiladu'r ysgol

Mae'r ysgol yn cael ei hariannu gan y cyngor ond mae gan yr Eglwys yng Nghymru rôl yn ei rhedeg.

Ym mis Mai, fe bleidleisiodd mwyafrif y cynghorwyr, o bob grŵp gwleidyddol ar y cyngor, o blaid ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Maenorbŷr ac Ysgol Clydau yng ngogledd y Sir.

Mae dros fil o bobl wedi arwyddo deiseb bellach ar wefan y cyngor yn galw ar yr awdurdod i ailadeiladu'r ysgol.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi bod yna "ddisgwyliad y byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu" a taw "dyna oedd y disgwyliad" tan y cyhoeddiad gan y Cyngor Sir ym mis Mai.

Becky Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky Williams yn rhiant yn yr ysgol ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Maenorbŷr

Fe agorodd Ysgol Maenorbŷr yn 1873, ac mi fyddai wedi dathlu 150 o flynyddoedd ar y safle oni bai am y tân dair blynedd yn ôl.

Ers hynny, mae'r disgyblion wedi cael eu haddysg yn neuadd bentref Jameston.

Mae tua 28 o blant yn mynychu'r ysgol dros dro ar hyn o bryd.

Dywedodd swyddogion y cyngor ym mis Mai mai yn Ysgol Maenorbŷr oedd y ganran uchaf o lefydd gwag yn Sir Benfro sef 77.9%.

Mae gan Becky Williams ferch ym mlwyddyn 2, ac mae hi'n gyn-ddisgybl ei hun. Mae hi wedi canmol ymdrechion yr athrawon, ond mae'n cyfaddef nad yw addysgu'r plant mewn neuadd bentref yn ateb hir dymor.

"Dyw'r adeilad ddim yn ddigon mawr a nid ysgol yw'r neuadd. Maen nhw wedi gwneud gwyrthiau wrth sefydlu'r ysgol ond mae angen i ni gael ein hadeilad nôl.

"Rwy'n teimlo bod y cyngor wedi ein methu ni. Roedden nhw wedi rhoi'r argraff bod yna fwriad i ailgodi'r ysgol.

"Rwy'n teimlo eu bod nhw wedi rhoi gwybodaeth ffug i ni. Maen nhw wedi methu y gymuned a'r plant."

Dywedodd ei bod hi'n ofni am ddyfodol y gymuned yn Maenorbŷr heb yr ysgol.

"Os nad oes ysgol mewn cymuned, yna dyw'r gymuned ddim yn ffynnu.

"Mi faswn i yn dweud wrth y cyngor i feddwl eto. Meddyliwch am y plant, am y gymuned a pheidiwch a thorri eich haddewidion."

Charlotte Fortune
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy ferch Charlotte Fortune wedi cael eu haddysgu yn neuadd bentref Jameston ers y tân dair blynedd yn ôl

Mae gan Charlotte Fortune ddwy ferch yn yr ysgol.

"Mae'r neuadd yn adeilad gwych ond nid ysgol yw hi.

"Nid bai'r plant yw e bod yr ysgol wedi cael ei chymryd wrthyn nhw. Pam na allan nhw gael ei hysgol nôl?"

Mae'n honni nad yw'r gymuned wedi cael "unrhyw gefnogaeth" gan y cyngor.

"Dydyn nhw ddim wedi helpu gydag unrhyw beth.

"Roedd hi'n fisoedd cyn bod nhw'n cydnabod y sefyllfa. Dydyn nhw ddim wedi gwneud ymdrech i gysylltu. Mae llawer ohonom yn flin iawn.

"Fe symudodd yr ysgol i'r neuadd heb gefnogaeth, heb gymorth i symud llyfrau gafodd eu hachub o'r tân.

"Y rhieni, yr athrawon a'r gymuned leol oedd yn gyfrifol am hynny.

"Rwy'n gobeithio bod y cyngor yn medru gweld pa mor galed mae pobl wedi gweithio ac wedi ymladd ac mae'r plant yn haeddu yr ysgol, ynghyd â'r athrawon."

Exterior gv of Manorbier school
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y cyngor, mae'r gost o ailadeiladu Ysgol Maenorbŷr yn rhy fawr ynghŷd a'r gost o ariannu pob disgybl yn yr ysgol

Mewn dogfen i'r cynghorwyr ym mis Mai, fe honnodd yr awdurdod bod "y niferoedd wedi disgyn dros y blynyddoedd ym Maenorbŷr, bod yna nifer sylweddol o lefydd gwag, a dim on 18.5% o blant yn byw yn y dalgylch".

Yn ôl y cyngor, mae'r gost o ailadeiladu Ysgol Maenorbŷr yn rhy fawr ynghyd â'r gost o ariannu pob disgybl yn yr ysgol.

Yn ôl amcangyfrif y cyngor, mi fyddai'n costio £2.6m i'w hailadeiladu.

Sam Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r aelod Ceidwadol lleol yn Senedd Cymru, Sam Kurtz, wedi cyhuddo'r cyngor o dorri eu gair

Mae'r aelod Ceidwadol lleol, Sam Kurtz, yn dweud bod y cyngor wedi torri addewidion a bod y sefyllfa yn "siomedig iawn."

"Mae'r plant yn cael eu dysgu mewn neuadd bentref yn Jameston ar ôl tair blynedd.

"Roedd arweinydd y cyngor, a chyn-arweinydd y cyngor wedi addo ailadeiladu'r ysgol ond dydy hynny ddim wedi digwydd a nawr yn anffodus maen nhw am gau yr ysgol yn gyfangwbl.

"Dydy hynny ddim yn dangos i fi bod y cyngor yn buddsoddi yn addysg y plant ifanc yma yn Maenorbŷr neu'r staff.

"Os ydy'r ysgol yn cael ei hailadeiladu, bydd mwy o blant yn dod nôl i'r ysgol.

"Mae'r sefyllfa yn anheg i'r plant. Mae'n annheg i'r disgyblion, i'r staff a'r gymuned yma yn Maenorbŷr.

"Roeddden nhw wedi addo ailadeiladu sawl gwaith yr ysgol a nawr maen nhw moyn ei chau hi."

Neuadd bentref Jameston
Disgrifiad o’r llun,

Lleoliad yr ysgol dros dro yn neuadd bentref Jameston

Gwrthododd aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro gais am gyfweliad.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor nad oedd hi'n bosib gwneud "sylw am fanylion tra bod proses ymgynghori yn cael ei chynnal".

"Mae'r broses o lunio dogfen ymgynghorol ar y cynigion ar gyfer ysgolion eglwys Cilgerran a Maenorbŷr yn cael ei chwblhau, ac fe fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf," medd llefarydd.

"Fe fyddwn ni yn ystyried pob safbwynt yn ystod y broses, cyn y byddwn ni yn gwneud unrhyw benderfyniad i gau ysgolion.

"Rydym yn gwerthfawrogi teimladau cryfion rhieni yn ardal Maenorbŷr ac fe fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod gan y cyngor cyn bo hir."