Y mêl arbennig sy'n cael ei gynaeafu ar Ynys Môn

- Cyhoeddwyd
Mae mêl yn cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd - fel cynhwysyn i'w fwyta a hefyd fel adnodd meddygol ar adegau.
Mae'r math o fêl o Seland Newydd ac Awstralia, Mānuka, yn enwog am yr awgrym ei fod yn cryfhau imiwnedd pobl, yn gwella iechyd y perfedd ac yn cynnig cymorth iechyd yn gyffredinol.
Ond mae math arall o fêl sy'n cynnig buddiannau tebyg i Mānuka, ac mae'n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru.
Dafydd Jones o Landdaniel Fab fu'n siarad gydag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ar 22 Medi, am y mêl Eucryphia, a ddarganfyddodd yn un o'i gychod gwenyn.
Y 'sioc' o ddarganfod y mêl
"Hyd y gwn i, dyma'r unig ffynhonnell o fêl eucryphia sydd wedi ei gynaeafu ac sydd ar werth ym Mhrydain," meddai Dylan.
Dydy'r cynaeafu ddim yn digwydd yn aml efo'r mêl yma, ac fe wnaeth Dafydd ddarganfod y mêl yn wreiddiol drwy ddamwain, fel yr esboniodd.
"Be 'dan ni'n wneud o ran rheoli'r cychod ydi, unwaith 'dan ni 'di cymryd mêl yr haf gan y gwenyn, 'dan ni'n dychwelyd y bocsys gwag efo'r fframiau o gwyr yn ôl i'r cychod iddyn nhw gael eu llyfu nhw'n sych.
"'Nes i hynny fel yr arfer, ond cafodd pethau eu gohirio ychydig bach, ac o'dd hi rhyw wythnos a hanner cyn mynd i nôl y bocsys gwag o'r cychod.
"Erbyn imi gyrraedd yna, ges i sioc... Roedd y bocsys yn llawn o fêl unwaith eto, ac hwnnw'n barod imi ei gynaeafu, roedd o wedi ei gapio ac oedd 'na bwysau o fêl yn y bocsys.
"Es i â'r mêl 'na adra, a thrio ei gorddi o fel fyswn i'n ei arfer ei wneud, ond o'dd y mêl yn gwrthod yn lân dod allan o'r cwyr.
"Pan o'ddan ni'n cyflymu'r corddwr mwy a mwy, oedd y fframia yn chwalu dan bwysau'r mêl. Ond o'dd o'n ymddangos bod 'na fêl rhedegog yn y cwyr.
"Yr unig beth allwn i feddwl oedd mai mêl grug o'dd o. Ond ar ôl dweud hynny does 'na ddim grug ar gyfyl lle 'dan ni'n cynaeafu'r mêl 'ma."

Felly, roedd ychydig o ddirgelwch ynghylch sut wnaeth y mêl yma ymddangos yng nghwch gwenyn Dafydd.
"A'thon ni allan i'r wenynfa i weld lle oedd y gwenyn yn mynd. 'Nath o ddim cymryd llawer i ni sylweddoli fod y gwenyn yn hedfan yn syth am y goeden 'ma oedd rhyw ganllath i ffwrdd.
"Odd 'na wenyn dros y goeden i gyd, gyda blodau gwyn arni hi, ac a'thon ni i weld be oedd y goeden 'ma – diolch byth oedd 'na label arni.
"Enw'r goeden oedd yr eucryphia nymansensis nymansay."
Gwneud gwaith ymchwil
Penderfynodd Dafydd wneud mwy o ymwchil, i ddysgu am y coed a'r mêl.
"Mae hi (eucryphia nymansensis nymansay) yn goeden groesryw (hybrid), rhwng dwy goeden sy'n frodorol i Chile, sef yr eucryphia glutinosa a'r eucryphia cordifolia.
"Yn Chile, dydi'r ddwy goeden 'ma ddim yn cydfyw, felly fysan nhw ddim wedi gallu croesi'n naturiol.
"Plannwyd dwy o'r coed 'ma yng Ngerddi Nymans yn Surrey, a dyna lle gododd y goeden groesryw yma'n naturiol, ac wedyn gafodd hi ei phlannu yn ngerddi eraill am ei bod hi'n goeden mor brydferth efo'r holl flodau gwyn 'ma arni hi."

Blodyn yr eucryphia cordifolia
"Ar ôl ni wneud bach mwy o ymchwil 'nathon ni ffindio yn Chile bod 'na fêl hynod o'r enw Ulmo yn cael ei greu o flodau'r ddwy goeden 'ma, a mae 'na rinweddau meddygol hynod i'r mêl yma", esboniai Dafydd.
"Mae 'na ymchwil 'di cael ei wneud sy'n profi bod y mêl yma lot, lot, lot mwy pwerus yn feddygol na be 'di mêl Mānuka, sef be ma lot o bobl 'di glywed amdana fo.
"Ond yn fwy 'na hynna, mae ganddo fo flas hynod hefyd. Yn lle bod o'n rhyw flas cryf, tarry iawn, fel mêl Mānuka, mae hwn yn flas ysgafn, flodeuol, a mae lot mwy o apêl iddo fo.
"Yn ogystal â'r goeden yna, mi ffindio'n ni yn y gerddi bod 'na goed eraill sy'n perthyn i'r un teulu. Mae'r goeden eucryphia glutinosa yna, plaster o wenyn a blodau yna, ac hefyd mae 'na eucryphia rostrevor, ac mae 'na hanes diddorol i hwnnw.
"Nath y goeden yma fagu a chroesi'n naturiol yng ngerddi Ystâd Rostrevor yng Ngogledd Iwerddon, ac mi na'th perchennog yr ystâd rannu yr egin blanhigion 'ma efo bonheddigion eraill, gan gynnwys Arglwydd Aberconwy, oedd yn berchen ar Erddi Bodnant ar y pryd.
"A dyna pam rŵan mae 'na gasgliad cenedlaethol o goed eucryphia yn Bodnant, ac maen nhw'n werth ei gweld.
"Fo (Arglwydd Aberconwy) ddaru roi'r goeden yma ymlaen yn sioe yr RHS (Royal Horticultural Society), a dyna lle cafodd yr enw eucryphia rostrevor. Ac yn y gerddi yn agos i'n cychod gwenyn ni, mae 'na res o ddwsin o rheini hefyd, yn denu'r holl wenyn."
'Paratoi' ar gyfer cnwd mis Awst
Mae cychod gwenyn Dafydd yng Ngerddi Plas Cadnant, sydd ddim yn bell o Borthaethwy, ac mae'n gobeithio gweld y mêl 'ma'n parhau i gael ei gynhaeafu yno.
"Does na'm garanti bo ni'n ei gael o (y mêl) bob blwyddyn. Dan ni'n paratoi y gwenyn yn flynyddol ar gyfer y cnwd yma, a mae'r cnwd yma'n dod ar ddiwedd mis Awst.
"Ar yr adeg hynny mae gwenynwyr fel arfer wedi gorffen tynnu'r mêl gan y gwenyn, a maen nhw'n paratoi'r gwenyn ar gyfer y gaeaf, drwy fwydo nhw efo siwgr, ac yn eu trin nhw yn erbyn gwyddion.
"Ond swn i'n synnu dim bod 'na fwy o'r mêl hynod 'ma mewn cychod gwenyn ym Mhrydain, ble bynnag ma'r coed 'ma, ond bod y gwenynwyr ddim yn gwybod bod o yna. Achos dros y gaeaf, fe fyddai'r gwenyn wedi ei fwyta fo, felly fysa 'na ddim hol ohono fo ar ôl erbyn y gwanwyn."
Mae mêl y gwanwyn, mêl yr haf, ac y mêl yma ar ddiwedd yr haf yn blasu'n dra wahanol i'w gilydd, gan fod y gwenyn yn defnyddio planhigion gwahanol i greu'r mêl. Y gobaith ydy y bydd y mêl arbennig yma'n parhau i gael cartref ar Ynys Môn am flynyddoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2024