Bellamy: Gêm olaf i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru, Craig Bellamy, wedi awgrymu ei fod yn ystyried rhoi'r gorau i chwarae i Gymru ar ôl gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror.
Bu farw Speed ym mis Tachwedd ac roedd perfformiad tîm pêl droed Cymru wedi gwella'n fawr yn ystod y llynedd.
Cyhoeddwyd mai Chris Coleman oedd ei olynydd bythefnos yn ôl.
Mae Bellamy, 32 oed, wedi awgrymu mai'r gêm rhwng Cymru a Chosta Rica ar Chwefror 29 fydd yr un olaf i'w wlad.
'Anodd'
"Dwi ddim yn gwybod os bydda i'n yn parhau i chwarae i Gymru," meddai wrth y Daily Mirror.
"Rwy'n meddwl y bydd hi'n anodd chwarae oherwydd effaith yr hyn ddigwyddodd (i Gary Speed).
"Rwy wedi dweud y bydda i'n chwarae yn erbyn Costa Rica ond efallai hon fydd y gêm ola. Dwi ddim yn siŵr, rhaid ifi siarad â llawer o bobl.
"Chwarae i Gymru oedd uchafbwynt fy ngyrfa.
"Ro'n i'n credu ynddo (Gary Speed) gymaint fel rheolwr, fel person, nes ro'n i'n credu y bydden ni'n chwarae yng Nghwpan y Byd.
"Ro'n i am iddo brofi'r pleser hefyd oherwydd fe welais i ba mor galed ro'dd yn gwithio.
"Dwi ddim yn siŵr a allwn ni fod yng Nghwpan y Byd hebddo fe."
18 oed
Chwaraeodd Bellamy ei gêm gyntaf i'w wlad yn erbyn Jamaica ym mis Mawrth 1998 pan oedd e'n 18 oed.
Ym mis Mawrth y llynedd dywedodd Bellamy, sydd wedi chwarae 67 gwaith i'w wlad, y byddai'n ystyried ei ddyfodol fel chwaraewr rhyngwladol ar ôl gemau Cwpan y Cenhedloedd yn erbyn Gogledd Iwerddon a'r Alban yr haf diwethaf.
Ond wedi trafod gyda Speed penderfynodd barhau i chwarae ac ef oedd un o'r chwaraewyr gorau wrth i'r tîm cenedlaethol ennill pedair o'r pum gêm olaf cyn i Speed farw.
Mae Coleman wedi trafod estyn ei yrfa ryngwladol tan ddiwedd ymgyrch Cymru i fod yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.
Pan gafodd Coleman ei benodi, dywedodd: "Rydyn ni angen Craig Bellamy oherwydd ei ddawn a'i agwedd.
"Mae'n gallu bod yn anodd ei drin ond mae e am i bethau gael eu gwneud yn iawn ... rwy'n gobeithio y bydd e'n parhau i chwarae i ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2011