Cymdeithas adeiladu: Llai o elw
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, y Principality, fod eu helw cyn treth wedi gostwng £6.3m dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r cwmni yng Nghaerdydd wedi dweud bod eu helw cyn treth yn £24.5m yn ystod 2011.
Ond maen nhw wedi denu mwy na 38,000 o gwsmeriaid newydd ac mae eu benthyciadau ar gyfer morgeisi wedi codi 6.5%, gan sicrhau bod cyfanswm eu benthyciadau yn fwy na £1 biliwn.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Peter Griffiths, fod llai o elw i raddau oherwydd mwy o fuddsoddi mewn technoleg ar-lein.
'Sbarduno'r farchnad'
Mae 52 o ganghennau drwy Gymru a'r gororau.
Dywedodd Mr Griffiths wrth BBC Cymru: "Fel mudiad cydfuddiannol sy'n eiddo i'n cwsmeriaid does dim rhaid inni dalu rhandaliadau i gyfranddalwyr.
"Ar hyn o bryd mae mantolen y rhan fwya o bobl yn llai o faint ... ond rydyn ni wedi bod yn tyfu.
"Mae pobl wedi benthyca £1 biliwn eleni ac mae prynwyr am y tro cynta yn un o bob pump o'n benthyciadau newydd sy'n helpu sbarduno'r farchnad."
Dywedodd y byddai 2012 yn flwyddyn "heriol" ond y byddai perfformiad y cwmni eleni yn debyg i'r llynedd.
Nid oedd oedd y Principality, meddai, yn paratoi ar gyfer unrhyw newidiadau yn y gyfradd llog eleni.
Ychwanegodd nad oedd yn disgwyl i chwyddiant fod yn wahanol i ragolygon y Trysorlys.