Plannu coetir maint 140 cae rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae coetir maint tua 140 o gaeau rygbi yn cael ei blannu ar hen dir fferm yn nyffryn Efyrnwy yng ngogledd Powys- y cynllun plannu mwyaf yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.
Bydd Coetir Cyffin yn cael ei blannu gan Will Woodlands, elusen sy'n cael ei hariannu'n breifat.
Bydd bron i 140 hectar yn cael ei blannu, yn bennaf gyda choed dail llydan brodorol, gan gynnwys derwen, onnen, gwernen, masarnen fach a choed ceirios.
Hwn yw'r prosiect mwyaf i gael ei gymeradwyo hyd yn hyn o dan gynllun Creu Coetir Glastir.
Hwb i fywyd gwyllt
Yn ogystal â chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o greu 100,000 hectar o goetir newydd yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, bydd y coetir newydd yn hwb i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru sy'n gyfrifol am gcnllu Creu Coetir Glastir ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Smith, swyddog coetir Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn y tîm Grantiau a Rheoleiddiad: "Yn ogystal â gwella bioamrywiaeth yr ardal, bydd creu rhagor o goetir yn cyfrannu at yr economi werdd sy'n datblygu yng Nghymru drwy ddarparu deunydd adeiladu cynaliadwy, tanwydd adnewyddol a swyddi gwyrdd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012