Cyngor arall i ddarlledu cyfarfodydd

  • Cyhoeddwyd

Cyngor Sir Benfro fydd yr ail awdurdod lleol yng Nghymru i ddarlledu eu cyfarfodydd ar y rhyngrwyd.

Daeth argymhelliad gerbron pwyllgor rheolaeth lywodraethol y cyngor i gymeradwyo bwrw 'mlaen gyda chynllun i ddarparu darllediadau gwe o'r cyfarfodydd.

Pleidleisiodd y pwyllgor o blaid y cynnig yn eu cyfarfod brynhawn Llun.

Roedd adroddiad i'r aelodau wedi awgrymu y bydd hyn yn costio oddeutu £15,000 am gamerâu, meicroffonau ac adnoddau technegol eraill.

Daeth yr argymhelliad yn dilyn cynnig gwreiddiol gan y cynghorydd Ceidwadol David Howlett, a awgrymodd y byddai caniatáu i'r cyhoedd ffilmio cyfarfodydd yn gwella tryloywder ac atebolrwydd yr awdurdod.

Ond fe leisiwyd pryderon am sut y gallai ffilmiau o'r fath gael eu golygu a'u cyflwyno, felly fe benderfynodd cynghorwyr mai darlledu'r cyfarfodydd eu hunain fyddai'r ffordd orau ymlaen.

Heddlu

Ym mis Mehefin y llynedd, fe gafodd yr heddlu eu galw i gyfarfod o Gyngor Sir Gaerfyrddin, gan arestio menyw oedd wedi gwrthod sawl cais i roi'r gorau i ffilmio'r cyfarfod hwnnw.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd yn ystyried newid eu polisi o ganlyniad i'r digwyddiad.

Ar draws y DU, mae oddeutu 40 o gynghorau yn darlledu eu cyfarfodydd ar y we, ond yng Nghymru, Cyngor Caerdydd yw'r unig un i wneud hynny ar hyn o bryd.

Bwriad Cyngor Sir Benfro yw dechrau gan ddarlledu cyfarfodydd o'r cyngor llawn, gyda chyfarfodydd o bwyllgorau eraill i ddilyn yn ddiweddarach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol