Gwaharddiad pellach i Davies?

  • Cyhoeddwyd
Bradley Davies yn gweld y cerdyn melyn gan y dyfarnwr Wayne BarnesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bradley Davies yn gweld y cerdyn melyn gan y dyfarnwr Wayne Barnes

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud y gallai'r clo Bradley Davies wynebu gwrandawiad disgyblu am dacl anghyfreithlon yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.

Fe gafodd gerdyn melyn am y dacl ar Donnacha Ryan ond mae Gatland wedi cyfaddef y dylai'r cerdyn fod wedi bod yn goch.

Cafodd y chwaraewr ei enwi gan yr awdurdodau wedi'r gêm ac mae gan brif swyddog y gêm tan 5pm brynhawn Mawrth i benderfynu a fydd yn wynebu cosb bellach.

Dywedodd Gatland: "Rwy'n credu bod yna fwriad a fyddwn i ddim wedi dadlau petai wedi cael cerdyn coch."

'Dyfarnwyr gorau'

Mae'r comisiynydd Achille Reali wedi enwi Davies ac mae Gatland wedi dweud wrth y chwaraewr 25 oed fod rhaid i'w ddisgyblaeth wella.

Fe gafodd gerdyn melyn yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2011.

Ychwanegodd Gatland: "Nid rygbi lleol yw hwn lle mae'n bosib na chewch chi mo'ch dal. Mae gennym y dyfarnwyr gorau yn y byd ac mae'n rhaid cadw'ch pen.

"Ellwch chi ddim colli disgyblaeth fel hyn oherwydd y gosb."

Cic gosb hwyr gan Leigh Halfpenny roddodd fuddugoliaeth i Gymru yn Nulyn o 23-21 yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012.

Cur pen

Byddai gwaharddiad pellach i Davies yn gur pen arall i Gatland wedi anaf i'r capten Sam Warburton yn Nulyn.

Bu'n rhaid i Warburton adael y cae ar yr egwyl gydag anaf i'w goes a gallai Gatland fod heb bump o'r flaenwyr ar gyfer ymweliad yr Alban â Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul.

Ni fydd Luke Charteris ar gael ac mae amheuon am ffitrwydd Alun Wyn-Jones, Dan Lydiate a Warburton.

"Rhaid i ni baratoi am y gwaetha," meddai Gatland.

"Mae Lou Reed gyda ni ar y funud ac fe all Ryan Jones symud i'r ail reng gan y bydd Dan Lydiate yn debyg o fod yn ffit. Ac mae Alun Wyn-Jones ar fin dychwelyd hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol