Siec Charles Dickens yn y Llyfrgell Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Gan fod dathliadau 200 mlynedd wedi geni'r awdur Charles Dickens, mae llyfrgell yng Nghymru'n honni bod ganddyn nhw un o'r eitemau diwethaf iddo ei harwyddo.
Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae siec y nofelydd am £21, sy'n dyddio'n ôl i Fehefin 6, 1870 - dridiau cyn iddo farw.
Honnir bod Dickens wedi ei chyfnewid am arian yn Rochester, Caint, wrth iddo wneud ymchwil ar gyfer ei nofel olaf, The Mystery of Edwin Drood. Roedd y ddrama deledu dros y Nadolig ar y BBC.
Hanesydd o Sir Benfro oedd yn berchen ar y siec tan iddo farw yn 1957.
Cafodd Arthur Leach ei eni yn Ninbych-y-pysgod ac fe adawodd y siec i'r Llyfrgell Genedlaethol ond does 'na ddim manylion ynglŷn â sut y daeth i fod â'r siec yn ei feddiant.
Cafodd Dickens ei eni yn Portsmouth ar Chwefror 7, 1812, a bu farw ar ôl trawiad ar y galon ar Fehefin 9, 1870.
Ei ddyddiau olaf
Fe ddaeth y siec i'r amlwg yn y Llyfrgell wrth i staff archwilio'r archifau.
"Does 'na fawr o eitemau yn y Llyfrgell sy'n gysylltiedig gyda Dickens," meddai Maredudd ap Huw, llyfrgellydd llawysgrif.
"Ond wedi chwilota fe ddois i o hyd i'r siec yma sy'n dyddio ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth.
"Beth oedd o'n wneud yr wythnos honno? Fe wyddom ei fod yn ysgrifennu ei nofel olaf, The Mystery of Edwin Drood.
"Ar ddydd Llun, Mehefin 6, fe aeth i Rochester ac fe gafodd ei weld yn pwyso yn erbyn ffens bren yn edrych ar un o'r tai.
"Roedd yn amlwg yn gwneud ymchwil ar gyfer ei nofel."
Roedd £21 yn "swm sylweddol" y dyddiau hynny.
Ynys Môn
Eglurodd Mr ap Huw fod Dickens wedi cael strôc a bu farw ar y dydd Mercher ar ôl treulio'r diwrnod yn ysgrifennu.
Ychydig o gysylltiadau sydd rhwng y nofelydd â Chymru, mae'n debyg.
Ond pan oedd o'n newyddiadurwr bu'n adrodd am ddamwain y Royal Charter oddi ar arfordir Ynys Môn ym mis Hydref 1859.
Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth, gan gynnwys dangos dwy ffilm brin a chynnar sy'n addasiadau o'i waith ym Mhrifysgol Bangor.
Caiff Scrooge neu Marley's Ghost, ffilm dair munud o 1901, ei dangos, yn ogystal â ffilm naw munud o Oliver Twist o 1909.
Yn y brifysgol hefyd bydd darlleniadau o'i waith gan gynnwys The Shipwreck a ysbrydolwyd, mae'n debyg, gan ei ymweliad ag Ynys Môn yn 1859.