Gleision yn dychwelyd i Barc yr Arfau
- Cyhoeddwyd
Mae rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi symud eu gêm yn erbyn Connacht nos Wener o Stadiwm Dinas Caerdydd i Barc yr Arfau.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r rhanbarth chwarae yn eu hen gartref ers symud i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009.
Mae nifer o gefnogwyr y Gleision wedi bod yn galw am symud yn ôl i Barc yr Arfau yn barhaol ond mae'r rhanbarth yn pwysleisio nad yw hynny'n rhan o'u cynlluniau ar hyn o bryd.
Daw'r symud wrth i drafodaeth ddechrau am ddyfodol ariannol y rhanbarthau rygbi yng Nghymru yn wyneb gostyngiad sylweddol yn nifer y cefnogwyr sy'n mynd i'r gemau.
'Gwrando ar gefnogwyr'
Wrth gyhoeddi y bydd gêm nos Wener yn symud, dywedodd prif weithredwr y Gleision, Richard Holland, nad oes 'na gynlluniau tymor hir i symud yn ôl yno.
"Rydym wedi gwrando ar y cefnogwyr ac fe ddylai fod yn achlysur ardderchog wrth chwarae'r gêm yma ym Mharc yr Arfau.
"Gobeithio y daw torf go lew yno nos Wener.
"Yn amlwg mae gan y Gleision brydles 20 mlynedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac nid yw symud gêm Connacht i Barc yr Arfau yn cael effaith o gwbl ar y cytundeb yna.
"Rydym mewn cyfnod economaidd anodd ac mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd i greu dyfodol cynaliadwy i'r rhanbarth."
Mae cyfyngiadau trwyddedu yn golygu mai uchafswm o 8,000 fydd yn cael mynd i'r gêm nos Wener.
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn dal bron 27,000.
'Symudiad dewr'
Daeth croeso i'r newid gan Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.
"Mae Undeb Rygbi Cymru yn cefnogi ac yn cymeradwyo'r cynllun yma gan Gleision Caerdydd," meddai.
"Yn y cyfnod anodd yma, rhaid ystyried bob un opsiwn.
"Mae'n symudiad dewr sy'n haeddu clod."
Bydd tocynnau sydd eisoes wedi eu gwerthu ar gyfer y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ddilys ar gyfer Parc yr Arfau, ond fe fydd gan bobl sydd wedi gwario dros £15 ar docyn yn cael cynnig eu harian yn ôl neu yn cael eu cyfnewid am docyn i'r gêm rhwng y Gleision ac Ulster.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012