Cwmni'n creu 250 o swyddi newydd yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Virgin Media wedi cyhoeddi cynllun i greu 250 o swyddi mewn canolfan alwadau yn Abertawe.
Mae'r swyddi ymhlith 620 o rai newydd ar draws y DU a gyhoeddwyd gan y cwmni - 500 mewn canolfannau galw a 120 fydd yn cael eu hyfforddi i fod yn beirianwyr o dan gynllun prentisiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddai recriwtio ar gyfer swyddi Abertawe yn dechrau ar unwaith.
Mae Virgin, sy'n cyflogi tua 12,000, wedi elwa ar dwf ei wasanaeth TiVo (teledu ar alw) gofnododd fwy na biliwn o wylwyr yn ystod 2011.
Dangosodd canlyniadau'r cwmni ddydd Mercher bod incwm y cwmni wedi cynyddu o 67.8% i £540 miliwn.
'Buddsoddiad'
Dywedodd Paul Buttery, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Rhwydweithiau'r cwmni: "Mae'r swyddi newydd yn mynd i sicrhau ein bod yn cwrdd â'r galw cynyddol am ein cynnyrch digidol i'r genhedlaeth nesaf ac yn help i'n cwsmeriaid i gael y math o wasanaeth y bydden nhw'n ei ddisgwyl gan gwmni Virgin.
"Bydd y buddsoddiad yn llesol i nifer o gymunedau ac rydym yn arbennig o falch i fedru cynnig dechrau da i gymaint o bobl ifanc yn y cyfnod heriol economaidd hwn."
Ychwanegodd y byddai mwyafrif y swyddi newydd yn Abertawe a Manceinion, gyda'r prentisiaethau ar draws y DU.