Uno prifysgolion: Bygwth mynd i lys
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dweud ei bod yn bosib y bydd yn rhaid mynd i gyfraith pe bai nhw'n cael eu gorfodi i uno â phrifysgolion eraill.
Dywed Barbara Wilding nad yw hi wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy'n dangos fod angen uno'r sefydliad gyda phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Gwnaed yr argymhelliad yn dilyn arolwg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Dywed y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai uno yn creu un o'r sefydliadau addysg uwch mwyaf grymus yn y Deyrnas Unedig.
Ond, yn ôl Ms Wilding, heb weld cynllun busnes manwl mae'n amhosib i lywodraethwyr wneud penderfyniad i gefnogi neu wrthod y cynllun uno.
Tystiolaeth
"Mae'n rhaid bod yna reswm dros yr uno, ac mae'n rhaid gweld tystiolaeth sy'n cefnogi'r rheswm....boed o'n rheswm ariannol neu rywbeth arall, mae'n rhaid cael tystiolaeth, " meddai Ms Wilding, cyn brif gwnstabl Heddlu'r De.
"Rydym wedi gofyn a gofyn am y dystiolaeth, tystiolaeth mae'r gweinidog yn credu sy'n bodoli - ond does dim wedi dod i law."
Mae'r gweinidog addysg yn gobeithio gweld y sefydliadau yn uno o'u gwirfodd ond mae ganddo'r pwerau i orfodi hynny hefyd.
Dywedodd Ms Wilding eu bod yn fodlon mynd i'r Uchel Lys pe bai angen.
"Mae ein cyfrifoldeb i'r staff a'r myfyrwyr.
"Oni bai ein bod yn gallu gweld budd newid o'r fath, yna pam y dylwn ddilyn proses o'r fath?"
Marchnad
Cred y gweinidog addysg fod y dystiolaeth dros uno yn glir.
"Mae'r farchnad ar gyfer prifysgolion yn mynd yn galetach. Mae'r sefyllfa yn fwy cystadleuol yn Lloegr a bydd hynny yn cael effaith ar sefydliadau yng Nghymru," meddai Mr Andrews.
"Ond rwy'n meddwl fod yna reswm mwy positif hefyd, sef creu un o'r sefydliadau addysg uwch mwyaf grymus yn y Deyrnas Unedig."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Morgannwg eu bod yn cydnabod y synnwyr dros uno oherwydd y byddai'n creu sefydliad fyddai'n gallu cystadlu gyda phrifysgolion mawr yn Lloegr.
Mae'r brifysgol yn cefnogi uno, cyn belled nad yw'n peryglu safle ariannol ac addysgol Prifysgol Morgannwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru, Casnewydd eu bod yn ffafrio sefydlu prifysgol newydd sbon yn hytrach nag uno sefydliadau presennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011