Warren Gatland yw'r ffefryn i hyfforddi'r Llewod yn 2013

  • Cyhoeddwyd
Warren Gatland a Syr Ian McGeechanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Warren Gatland a Syr Ian McGeechan yn trafod tactegau ar daith y Llewod yn 2009

Warren Gatland yw'r ffefryn i hyfforddi'r Llewod ar y daith i Awstralia yn 2013.

Mae cytundeb hyfforddwr Tîm Rygbi Cymru yn cynnwys pum mis o seibiant ond mae BBC Cymru yn deall bod yr undeb yn barod iddo gael chwe mis sabathol.

Roedd Gatland yn gynorthwy-ydd Syr Ian McGeechan oedd yn hyfforddi'r Llewod ar y daith ddiwethaf yn 2009 i Dde Affrica.

Fe fyddai hynny'n golygu na fydd Gatland ar gael i hyfforddi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwald yn 2013.

Y gred yw y bydd un neu gyfuniad o'r pedwar sy'n cynorthwyo Gatland - Rob Howley, Robin McBryde, Shaun Edwards a Neil Jenkins - yn cymryd yr awenau dros dro.

Roedd rheolwr y Llewod, Andy Irvine wedi dweud mai eu dymuniad oedd i'r hyfforddwr yn 2013 fod ar gael "am flwyddyn".

Ond mae'r amserelen yn hyblyg.

Fe lwyddodd y dyn o Seland Newydd i arwain Cymru i'r Gamp Lawn yn 2008 ac fe wnaeth argraff yn ystod taith y Llewod yn 2009.

Ar y brig

Mae Cymru ar frig Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl y ddwy gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon a'r Alban.

Hyfforddwyr Iwerddon a'r Alban yw cyn hyfforddwyr y Llewod, Declan Kidney ac Andy Robinson.

Fe fydd enw hyfforddwr y Llewod 2013 yn cael ei gyhoeddi ar ôl diwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe fydd y Llewod yn chwarae tair gêm brawf yn erbyn Awstralia ond fe fydd eu gêm gyntaf yn erbyn y Barbariaid yn Hong Kong ar Fehefin 1.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol