Adroddiad: Miloedd yn llai o siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Logo Bwrdd yr Iaith GymraegFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Arolwg yn dod i'r casgliad bod hyd at 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn yng Nghymru

Mae hyd at 3,000 yn llai'n siarad Cymraeg yn rhugl bob blwyddyn, yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Ac mae'r adroddiad - Darlun ystadegol o sefyllfa'r Gymraeg - gan ystadegydd y bwrdd, Hywel M Jones, hefyd yn dweud bod tua 55,000 o bobl yn mewnfudo i Gymru bob blwyddyn.

Dywed yr adroddiad fod mudo - a marwolaethau - yn effeithio'n sylweddol ar y nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru.

Mae'n annhebygol, yn ôl yr adroddiad, y bydd 'na gynnydd yn y ganran sy'n medru'r Gymraeg yn y dyfodol agos.

Canfu'r adroddiad fod 363,000 o bobl yn rhugl yn y Gymraeg yn 1992.

Ond roedd y nifer hwn wedi gostwng i 317,000 erbyn 2006, gostyngiad o 46,000 dros gyfnod o 15 mlynedd.

Twf addysg

Disgrifiad,

Nia Thomas yn holi Hywel M. Jones

Mae'r ddogfen wedi canolbwyntio ar siaradwyr Cymraeg, eu sgiliau llythrennedd a'r defnydd gweithredol a wneir o'r iaith.

Y brif ystyriaeth oedd pa mor gynaliadwy oedd y sefyllfa bresennol a'r rhagolygon am y dyfodol oedd ei brif ystyriaeth.

Un casgliad yw bod cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001 o ganlyniad i dwf addysg Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion.

Dywed yr adroddiad hefyd fod canran y siaradwyr iaith gyntaf yn dal i godi ymhlith yr ifanc o ganlyniad i addysg Gymraeg.

Adeg Cyfrifiad 2001 roedd 20% o'r boblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.

Gellir disgwyl bod y ganran yn uwch erbyn hyn ac yn parhau i gynyddu, yn ôl yr adroddiad.

Dosbarthiad daearyddol

Newidiodd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Meirion Prys Jones, mae llai o bobl yn defnyddio'r iaith Gymraeg

"Golygai hynny fod y tebygolrwydd y byddai siaradwr Cymraeg yn cwrdd ag un arall ar hap wedi lleihau dros y cyfnod hwnnw," medd yr adroddiad.

"Mae goblygiadau o ran defnydd yr iaith a ffurfiant cartrefi lle defnyddir y Gymraeg yn deillio o'r fath newid."

Ac mae'r ddogfen wedi dweud nad yw canlyniadau arolygon diweddar yn awgrymu y bydd cynnydd sylweddol yng nghanran siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol agos.

Dywed yr adroddiad fod hen gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn dal yn bwysig am fod 56% o'r bobl sy'n rhugl yn yr iaith yn byw yn yr ardaloedd hyn.

Bwriad yr adroddiad yw crynhoi'r ystadegau am y Gymraeg sydd wedi cael sylw y Bwrdd Iaith dros y blynyddoedd.

'Cynhwysfawr'

"Ac eithrio beth sy'n cael ei gasglu gan rai llywodraethau, dyma'r darlun ystadegol mwyaf cynhwysfawr yn y byd o sefyllfa iaith leiafrifol felly mae'n ddogfen hynod o arwyddocaol yn hynny o beth," medd Prif Weithredwr Bwrdd yr iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones.

Disgrifiad,

Adroddiad Craig Duggan

"Wrth adnabod y prif faterion sy'n effeithio ar y Gymraeg, mae'r ddogfen hon yn gosod man cychwyn i fesur cynnydd neu ddirywiad oddi wrtho, a bydd yn wybodaeth bwysig i Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn nyfodol yr iaith.

"Mae yna newyddion da iawn i'r Gymraeg o safbwynt addysg, gydag ysgolion Cymraeg yn cynhyrchu niferoedd uchel o siaradwyr yr iaith bob blwyddyn.

"Ar y llaw arall mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn gostwng.

"Yr her i'r llywodraeth yw buddsoddi adnoddau ac arian i greu'r cyd-destun fel y gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau."