Cynnydd yn nifer y tai sydd wedi'u gwerthu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna gynnydd yn nifer y tai gafodd eu gwerthu yng Nghymru yn ystod mis Ionawr.
Mae arolwg diweddaraf Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn dweud bod nifer o brynwyr tro cyntaf wedi cymryd mantais o'r cyfnod nad oedd rhaid talu treth stamp sydd yn dod i ben ym mis Mawrth.
Roedd 11% yn fwy o syrfewyr yng Nghymru'n dweud bod cynnydd yn nifer y tai a werthwyd ers dechrau'r flwyddyn.
Bydd prynwyr tro cyntaf yn gorfod talu treth stamp ar eiddo gwerth llai na £250,000 unwaith eto o Fawrth 24.
'Prisiau'n gostwng'
O ganlyniad mae rhai syrfewyr wedi nodi bod y ffactor yma wedi achosi cynnydd ymysg y tai rhataf a brynwyd ym mis Ionawr.
Dywed yr adroddiad fod syrfewyr yn weddol ffyddiog ynghylch y rhagolygon tymor byr am fod 15% ohonyn nhw'n meddwl y byddai lefelau gwerthiant yn cynyddu yn ystod y tri mis nesaf.
Er hynny, mae prisiau tai yng Nghymru yn dal i ostwng yn ôl yr adroddiad wrth i 41% yn fwy o syrfewyr yng Nghymru'n dweud bod prisiau wedi gostwng yn hytrach na chodi.
Roedd 11% o syrfewyr yng Nghymru wedi adrodd bod yna fwy yn hytrach na llai o dai wedi dod ar y farchnad yn ystod y cyfnod hwn.
Yn ôl yr adroddiad roedd 14% o syrfewyr yn dweud bod mwy yn hytrach na llai o ymholiadau gan brynwyr tro cyntaf ym mis Ionawr yn sgil eu diddordeb i brynu tai cyn i'r cyfnod nad oedd rhaid talu treth stamp ddod i ben.
Dywedodd cyfarwyddwr syrfewyr siartredig Kelvin Francis, Caerdydd, a llefarydd RICS yng Nghymru, Tony Filice: "Oherwydd y bydd prynwyr tro cyntaf yn gorfod talu treth stamp o Fawrth 24 mae'n debyg bod rhai ohonyn nhw'n ceisio prynu tai cyn y diwrnod hwnnw.
"O ganlyniad mae syrfewyr yn weddol optimistaidd ynglŷn â'r misoedd nesaf o ran y farchnad dai.
"Ond mae diffyg morgeisi fforddiadwy yn dal i atal nifer o bobl rhag prynu tŷ am y tro cyntaf."