Archesgob i siarad am waith Waldo Williams
- Cyhoeddwyd
Gwaith Waldo Williams yw testun darlith Archesgob Caergaint ym mis Mawrth.
Mae Dr Rowan Williams yn edmygu'n fawr waith y bardd a'r heddychwr o Sir Benfro, un o feirdd mwya'r ganrif ddiwetha.
Eisoes mae wedi cyfieithu cerddi Waldo i'r Saesneg ac fe fydd y ddarlith yng Nghapel Pisgah, Llandysilio, Sir Benfro, ar Fawrth 23.
Cymdeithas Waldo, y mudiad gafodd ei sefydlu i goffáu bywyd y bardd, sydd wedi ei wahodd.
Ganwyd Waldo ym 1904 yn fab i ysgolfeistr yn Hwlffordd.
Carreg goffa
Ysgrifennodd ei farddoniaeth fwyaf ingol yn ystod y blynyddoedd wedi ffrwydro'r bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki.
Lluniodd hefyd nifer o gerddi am genedlaetholdeb, gan gynnwys Preseli, Cymru'n Un, a Cymru a'r Gymraeg.
Cyhoeddodd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Dail Pren, yn 1956.
Bu farw ym 1971 a'i gladdu ym mynwent Capel Blaenconyn rhwng Llandysilio a Chlunderwen.
Saif carreg goffa ger Mynachlog-ddu gyda'r arysgrif syml 'Waldo 1904-1971' arni.