Galw am symud dŵr o Gymru i Loegr

  • Cyhoeddwyd
CronfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau dŵr mewn rhannau o dde-ddwyrain Lloegr yn is nag yn ystod sychder 1976

Daeth galwadau am i ddŵr o Gymru a'r Alban gael ei roi i rannau o dde-ddwyrain Lloegr er mwyn lliniaru'r sychder yno.

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) wedi galw am rwydwaith ddŵr, tebyg i'r grid cenedlaethol ar gyfer trydan, er mwyn symud dŵr i ardaloedd o sychder.

Cafodd y syniad ei wyntyllu gyntaf gan Faer Llundain, Boris Johnson, y llynedd.

Ond mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, wedi dweud y dylai Cymru dderbyn arian am unrhyw ddŵr y mae'n ei gyflenwi.

Ddydd Llun fe ddatgelodd Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig llywodraeth y DU (DEFRA) bod ardaloedd eang o dde-ddwyrain Lloegr yn swyddogol mewn cyflwr o sychder.

Fe wnaeth papur gwyn gan y llywodraeth yn ddiweddar alw am fwy o gysylltu rhwng cyflenwadau dwr y DU er mwyn defnyddio adnoddau yn fwy hyblyg ac effeithlon.

'Cynaliadwy'

Ategwyd yr alwad gan Keith Jones, cyfarwyddwr ICE yng Nghymru, a ddywedodd:

"Mae gennym y grid cenedlaethol ar gyfer trydan, ac fe ddylai fod rhyw fath o ffordd naturiol o drosglwyddo dŵr.

"Dylai fod ffordd o symud dŵr o ardaloedd sydd heb sychder i ardaloedd sy'n dioddef.

"Fel peirianwyr sifil, mae unrhyw beth yn bosib o safbwynt adeiladu ac isadeiledd, er fe fyddai'n rhaid canfod ffordd o wneud hynny yn gynaliadwy."

Dywedodd cwmni Dwr Severn Trent, sy'n cyflenwi dŵr i ganolbarth Cymru ynghyd â chanolbarth Lloegr, eu bod yn cefnogi "masnachu dŵr".

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Dros y chwe mis diwethaf, mae Severn Trent wedi canolbwyntio ar symud cyflenwadau dwr o ardaloedd gwlyb y gorllewin i ardaloedd sych y dwyrain er mwyn cael cydbwysedd."

'Trefniant cyfeillgar'

Ond wrth siarad ar raglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2 ddydd Mawrth, dywedodd Elfyn Llwyd y dylai unrhyw drefniant i gyflenwi dŵr o Gymru gael ei wneud ar sail fasnachol.

Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd: "I fod yn realistig, rhaid i mi ddweud nad wyf yn gweld rheswm pam - os yw Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth pobl Cymru am gyrraedd rhyw fath o gytundeb - yna pam lai?

"Gallwn gael cytundeb cyfeillgar gyda phobl Lloegr, ond ar sail fasnachol, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol.

"Nid rhyw fath o sefyllfa OPEC fyddai hyn lle mae pris dwr yn cynyddu deg gwaith dros nos - na - dim ond trefniant cyfeillgar, rhesymol ond masnachol."

Iawndal

Mewn erthygl papur newydd ym mis Mehefin 2011, galwodd Boris Johnson am ddŵr glaw sy'n disgyn ar fynyddoedd y DU i gael ei ddefnyddio i daclo prinder mewn ardaloedd mwy sych.

Arweiniodd hynny at sylwadau gan gyn arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, oedd yn galw am iawndal petai cyflenwadau dwr yn cael eu cymryd o Gymru i ateb galw yn Lloegr.

Dim trafod

Dywedodd Swyddfa Cymru mai mater i Lywodraeth Cymru oedd symud dwr allan o Gymru, a dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Does dim trafodaethau wedi bod rhwng llywodraethau Cymru a'r DU am symud dŵr o Gymru i rannau o Loegr, a hyd yma nid yw Llywodraeth y DU wedi ceisio trafod y mater gyda ni.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y bydd unrhyw drafod ar y mater yma yn seiliedig ar bobl Cymru yn derbyn gwerth yr adnodd hanfodol yma, a bod amgylchedd Cymru yn cael ei warchod yn iawn.

"Ar hyn o bryd mae sefyllfa dwr yng Nghymru yn iach gyda'r cronfeydd yn llawn neu'n agos at fod yn llawn.

"Mae hynny i'w ddisgwyl yr adeg yma o'r flwyddyn, ond os daw gwanwyn sych - fel dros y tair blynedd diwethaf - fe allai sefyllfa ddirywio'n gyflym.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant dwr ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i fonitro'r sefyllfa."