Buddsoddiad yn y sector ynni glan 'yn cael ei wario yn y lle anghywir'

coleg Sir Benfro yn Hwlffordd
  • Cyhoeddwyd

Mae uwch gynghorydd i Lywodraeth Cymru yn dweud bod rhywfaint o'r buddsoddiad mewn swyddi ynni glân yn cael ei wario yn y lle anghywir.

Mae Dr David Clubb, sy'n cadeirio'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i inswleiddio cartrefi i helpu i ostwng biliau.

Mae gweinidogion yn bwriadu buddsoddi mewn cynlluniau storio carbon, sydd yn ôl Dr Clubb, yn dechnoleg heb ei phrofi.

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "hanfodol i ni wella ein diogelwch ynni a lleihau ein dibyniaeth ar ynni o dramor".

Bydd myfyrwyr sy'n dysgu eu crefft yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd yn gweld llawer mwy o fyfyrwyr newydd yn ymuno â nhw ar ôl hanner tymor.

Mae hynny oherwydd bod y coleg wedi'i ddewis i dreialu cynllun fydd yn dod â 15,000 o swyddi newydd i Gymru, meddai gweinidogion,

Y gobaith yw y bydd gweithwyr yn cael eu hyfforddi mewn meysydd sgiliau amrywiol o blymio i weldio er mwyn helpu gyda'r symudiad at ynni glân.

Arwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gyfle da iawn i'r bobl sy'n byw yn Sir Benfro a gobeithio y bydd yn peri bod yr ardal yn ffynnu yn y dyfodol," meddai Arwyn Williams

Mae Arwyn Williams o'r coleg wedi croesawu'r datblygiad:

"Mae'n wych bod Sir Benfro wedi cael ei dewis fel sir i fuddsoddi ynddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

"Mae'n gyfle da iawn i'r bobl sy'n byw yn Sir Benfro a gobeithio y bydd yn peri bod yr ardal yn ffynnu yn y dyfodol."

Bydd y Coleg yn cynnig mwy o hyfforddiant ym mhob math o grefftau arbenigol, ac maen nhw'n gobeithio cael 200 o fyfyrwyr ychwanegol drwy'r drysau yn y misoedd nesaf.

Mae Rowan, 17 oed, o Ddoc Penfro eisoes ar y cwrs weldwyr.

"Ni yw'r genhedlaeth newydd o weldwyr felly mae'n ddefnyddiol cael y cyllid ychwanegol i gael peiriannau ac offer newydd a all ddysgu sgiliau ychwanegol i ni," meddai.

Rowan, Theo a Bethany
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rowan, Bethany a Theo yn astudio weldio yn y coleg

Mae Theo, sy'n 17 oed ac o Monkton, yn dweud ei fod yn rhywbeth y mae wedi bod eisiau ei wneud erioed.

"Dywedodd fy nhad wrtha i am weldio; wedodd e fod llawer o arian i gael, a llawer o gyfle felly o'n i'n meddwl y gallwn ei ddilyn ac 'wi wedi'i fwynhau byth ers hynny."

Mae myfyrwraig weldio arall, Bethany, sy'n 17 oed ac yn dod o Hwlffordd, yn gobeithio cael swydd yn y sector ynni glân.

"Mae'n anhygoel pa mor bell maen nhw wedi dod gyda phopeth felly rydw i wrth fy modd i fod yn rhan o'r holl beth newydd sy'n digwydd," meddai.

Dr David ClubbFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gan Gymru'r stoc tai hynaf yng ngorllewin Ewrop," meddai Dr David Clubb

Ond er ei fod yn croesawu'r buddsoddiad, mae Dr David Clubb, sy'n arbenigwr mewn technoleg ynni gwyrdd ac yn Gadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, yn cwestiynu cynlluniau'r llywodraeth i wario biliynau ar storio carbon fel rhan o'r cynllun.

"Dylen ni fod yn siarad yn gyntaf am sut y'n ni'n defnyddio ynni yn y lle cyntaf, ac mae gan Gymru'r stoc tai hynaf yng Ngorllewin Ewrop," meddai.

"Mae gennym ni lawer iawn o bobl mewn tlodi tanwydd, felly rwy'n credu, i Gymru, mai'r peth cyntaf y dylen ni fod yn ei wneud yw edrych ar raglen inswleiddio, a dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi arian yn hynny.

"I gymharu hynny, er enghraifft, â'r hyn maen nhw wedi siarad amdano gyda buddsoddiad o £20 biliwn mewn dal a storio carbon, wel, mae honno'n dechnoleg sy' heb ei phrofi, ac sy'n annhebygol o gael effaith fawr ar ein huchelgeisiau ar gyfer cyrraedd net sero erbyn 2050.

"Mae'n llawer gwell lleihau'r swm y mae pobl yng Nghymru yn ei dalu am eu biliau ynni, cael tai sy'n fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn llawer haws i'w gwresogi, na bod yn gwario symiau enfawr o arian, a fydd yn creu swyddi, ie, ond mewn ardal leol iawn."

Ed MilibandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Ed Miliband, yn dweud ei fod yn benderfynol o leihau biliau ynni

Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Ed Miliband, yn dweud ei fod yn sefyll gerbron ei addewid i leihau biliau ynni, ond mae Dr Clubb hefyd yn gofyn a fydd prosiectau gwyrdd ar raddfa fawr o fudd i Gymru.

"Yr ongl arall i mi, a'r Comisiwn Seilwaith, yw ein bod yn siomedig nad yw perchnogaeth y prosiectau hyn yn cael ei hystyried," meddai Dr Clubb.

"Felly, ie, bydd llawer o swyddi'n cael eu creu tra bod prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu, ond mae perchnogaeth y prosiectau hynny y tu allan i Gymru i raddau helaeth, felly dim ond y sector ynni cymunedol ac ychydig o gwmnïau bach yng Nghymru fydd yn berchen ar unrhyw un o'r prosiectau.

"Felly hoffem weld bil ynni adnewyddadwy sy'n rhoi cyfle i sefydliadau a phobl leol brynu i mewn i brosiectau."

Samuel Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Samuel Kurtz fod yr "addewid o swyddi i'w groesawu, ond mae dieithrio ein diwydiannau olew a nwy traddodiadol hefyd yn cynyddu cost biliau pobl"

Mae Llefarydd yr Economi ac Ynni y Ceidwadwyr Cymreig, sydd hefyd yn AS lleol, hefyd yn croesawu'r buddsoddiad newydd ond mae ganddo bryderon ynghylch y goblygiadau i olew a nwy.

"Mae angen i ni edrych ar hyn mewn cyd-destun ehangach ble mae biliau ynni wedi cyrraedd ar ôl i Lafur ddod i rym, a'r addewid hwnnw o dorri £300 oddi ar filiau ynni," meddai Sam Kurtz.

"Eto i gyd, mae biliau ynni bellach bron i £200 yn ddrytach yn y 12 mis ers yr Etholiad Cyffredinol, felly mae'r addewid o swyddi i'w groesawu, ond mae dieithrio ein diwydiannau olew a nwy traddodiadol hefyd yn cynyddu cost biliau pobl, a dyna beth mae pobl yn ei deimlo yn eu pocedi."

'Hanfodol i ni wella ein diogelwch ynni'

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae effaith prisiau ynni uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos ei bod yn hanfodol i ni wella ein diogelwch ynni a lleihau ein dibyniaeth ar ynni a fewnforir.

"Gyda'n digonedd o adnoddau naturiol, mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflymu ein cyfraniad ynni adnewyddadwy ac ar yr un pryd fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd.

"Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth y gellir creu miloedd o swyddi ynni glân yng Nghymru, mae swyddi gwyrdd a thwf cynaliadwy yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol lle mae cymunedau Cymru yn elwa o fuddsoddiad ynni glân, gyda chadwyni cyflenwi ffyniannus a gweithlu sydd â'r sgiliau sydd eu hangen ar ein diwydiannau ar frys.

"Ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yw un lle mae diwydiannau cynaliadwy yn cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i gynhyrchu swyddi a gyrfaoedd o ansawdd uchel a manteision eraill i'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dal a storio carbon (CCS) yn cael ei ddefnyddio i gefnogi diwydiant i ddatgarboneiddio ac mae ein polisi cyhoeddedig yn ei gwneud yn glir sut rydym yn disgwyl i CCS gael ei ddefnyddio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.