Cefnogaeth i ddeddf pobl ar goll gan chwaer gitarydd

  • Cyhoeddwyd
Rachel EliasFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Elias am gael mwy o hawliau i deuluoedd pobl sydd ar goll

Mae chwaer y cyn seren roc Richey Edwards yn cefnogi galwad am fwy o hawliau i deuluoedd pobl sydd wedi mynd ar goll.

Llwyddodd teulu Rachel Elias i gofrestru bod gitarydd y Manic Street Preachers wedi marw ym mis Hydref 2008 - 13 mlynedd wedi iddo ddiflannu ar Chwefror 1, 1995.

Dywedodd bod y system bresennol yn gosod teuluoedd mewn cyfyngder cyfreithiol mewn cyfnod lle y maen nhw eisoes dan straen.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd yn ystyried y mater yn ofalus.

'Penderfyniad anodd'

Mewn adroddiad, mae'r Pwyllgor Dethol Cyfiawnder yn Nhŷ'r Cyffredin yn galw am ddeddfwriaeth yn seiliedig ar Ddeddf Marwolaeth Tybiedig yr Alban (1977) i gael ei chyflwyno yng Nghymru a Lloegr.

Dywed yr Aelodau Seneddol y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddeddfu ar gyfer un dystysgrif sy'n datgan "tybiaeth bod person yn farw".

Mae rhai yn credu bod Richey Edwards, o'r Coed Duon, wedi lladd ei hun yn 27 oed, ac fe gafodd ei gar ei ddarganfod wedi ei ddiflaniad ger Pont Hafren.

Dywedodd ei chwaer wrth BBC Cymru ei fod yn benderfyniad anodd i'w theulu i fynd i'r llys i geisio cael datganiad bod ei brawd wedi marw'n swyddogol.

"Mae marwolaeth dybiedig yn derm cryf iawn," meddai.

"Mae'n anodd iawn oherwydd mae'r llys yn dweud bod person wedi marw'n swyddogol, ond yn eich calon rydych yn gobeithio nad yw hynny'n wir.

"Rydych yn dal i weddïo y byddan nhw'n dod yn ôl."

'Straen aruthrol'

Ychwanegodd bod ei theulu wedi dechrau'r broses o gael datganiad ei fod wedi marw yn 2005, ond iddi gymryd tan 2008 tan i'r mater gael ei gwblhau mewn llys.

"I nifer o deuluoedd eraill sydd wedi gorfod delio gyda materion fel diddymu priodas neu wneud trefniadau ariannol am gyfrifon ar y cyd, mae'r peth yn broblem llawer gwaeth.

"Rydych eisoes mewn sefyllfa o straen aruthrol am eu bod wedi mynd, a chithau ddim yn gwybod lle y maen nhw, ond wedyn mae gennych y sefyllfa gyfreithiol ofnadwy yma, a gobeithio y bydd deddfwriaeth yn datrys hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn cydnabod y "trafferthion emosiynol ac ymarferol" sy'n wynebu'r rhai sydd â'u hanwyliaid ar goll.

"Rydym eisoes yn gweithio i wella'r canllawiau yn ymwneud â phwerau'r crwner lle mae person ar goll, ac fe fyddwn yn edrych ar feysydd eraill lle gallai'r arweiniad gael ei wella.

"Byddwn yn ystyried yn ofalus yr argymhellion gan y Pwyllgor Cyfiawnder ac yn ymateb maes o law."