Cost emosiynol ac ariannol clefyd
- Cyhoeddwyd
Mae angen buddsoddi llawer mwy er mwyn ymchwilio i'r clefyd Alzheimer, medd darlledwraig, neu fe fydd problemau enfawr o fewn 10 mlynedd.
Daw rhybudd Beti George ar raglen deledu wrth iddi gofnodi effaith y clefyd a gwahanol fathau o ddementia ar deuluoedd yng Nghymru.
"Mae'r arian sy'n cael ei wario ar ymchwil dementia yn 12 gwaith yn is na'r arian sy'n cael ei wario ar ymchwil i ganser - £50 miliwn o'i gymharu â £590 miliwn," meddai Beti, cyflwynydd y gyfres radio Beti a'i phobol.
Mae gan y ddarlledwraig resymau personol am ei barn gan fod ei phartner, yr awdur a'r darlledwr 78 oed, David Parry-Jones, â'r clefyd Alzheimer ers tair blynedd.
"Os nad oes 'na fuddsoddi nawr mewn ymchwil, fe fydd cost emosiynol ac ariannol y clefyd ymhen degawd arall yn waeth nag y gallwn ni amgyffred," meddai.
40,000 o bobl
Yn ôl yr ystadegau, mae bron 40,000 yng Nghymru â'r clefyd Alzheimer neu fath arall o ddementia - ac mae'r ffigyrau'n awgrymu y bydd un o bob tri ohonon ni'n marw gyda'r afiechyd.
"Mae gweld y cyflwr yn effeithio ar David, dyn oedd yn ei elfen yn darllen ac ysgrifennu ac wedi ennill gwobr Brydeinig am un o'i lyfrau am hanes rygbi Cymru, wedi fy ngwneud i'n benderfynol i agor y drafodaeth am y clefyd Alzeheimer a dementia," meddai'r fenyw sy'n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Goed-y-bryn, Ceredigion.
Un o Bob Tri, 8.25pm, nos Fercher