Gollwng dros hanner honiadau yn erbyn athrawon

  • Cyhoeddwyd

Mae dros hanner yr honiadau yn erbyn athrawon a chynorthwywyr dysgu gan ddisgyblion yng Nghymru wedi bod yn anghywir, maleisus neu ddi-sail.

Mae ffigyrau a gafwyd gan BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod 55% o'r 312 o honiadau wedi cael eu gollwng.

Mae undebau athrawon yn dweud bod angen cymryd camau yn erbyn disgyblion sy'n gwneud honiadau maleisus neu ddi-sail.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wrthi yn diweddaru eu canllawiau ar y pwnc, ond ei fod yn bwysig i gymryd honiadau plant o ddifrif ac annog plant gyda chwynion go iawn i ddweud eu dweud.

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi eu canllawiau newydd "fel mater o frys".

Mae'r ffigyrau yn dangos rhwng 2006 a 2011, fe wnaed 312 o honiadau yn erbyn athrawon a chynorthwywyr dysgu gan ddisgyblion yng Nghymru.

55.7%

Ond cafwyd bod 174 ohonynt, neu 55.7%, yn anghywir, maleisus neu ddi-sail.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i 103 achos a chafwyd dau athro neu gynorthwywyr yn euog o drosedd.

O'r bobl a oedd yn wynebu cyhuddiadau, cafodd 121 eu hatal o'r gwaith tra roedd ymchwiliad ar y gweill.

Mae undebau'r NUT a NASUWT yn dweud y gallai'r broblem fod yn waeth nag y mae'r ffigyrau yn awgrymu.

Nid oedd tri chyngor - Abertawe, Ceredigion a Chaerffili - yn medru darparu ffigyrau ar y pwnc ac roedd rhai ond yn medru rhoi ffigyrau am yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

'Hunllef'

"Mae hyn yn destun pryder i ni ac i athrawon," meddai Rex Phillips o undeb y NASUWT.

"Hunllef waethaf pob athro neu athrawes yw cael honiadau ffug yn eu herbyn.

"Y cwbl rydym yn gofyn yw i athrawon gael eu trin yn deg.

"Unwaith i honiad gael ei wneud, mae athrawon yn aml yn cael eu hatal o'u gwaith ar unwaith heb unrhyw ystyriaeth i wirionedd yr honiad.

"Does dim 'dieuog tan y profir yn euog'."

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler: "Dylai ystafelloedd dosbarth fod yn llefydd diogel i athrawon ac i ddisgyblion.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu canllawiau newydd "fel mater o frys".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ni ddylwn wneud unrhyw beth a allai tanseilio hawl plant i gael eu clywed a rhaid annog rhai gyda chwynion go iawn i ddweud eu dweud.

"Rydym wrthi yn diweddaru ein canllawiau ar y pwnc".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol