Awyren yn glanio ar frys mewn cae

  • Cyhoeddwyd
Yr awyren mewn clawdd ar dir ffermFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren mewn clawdd ar dir fferm

Mae dau berson wedi dianc yn ddianaf ar ôl i awyren fechan lanio ar frys mewn cae ger Maes Awyr Abertawe.

Gorffennodd yr awyren dwy sedd mewn clawdd ar dir fferm tua 1:30pm ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau yn aelodau o glwb hedfan yn Abertawe, ond nid oedd y clwb yn dymuno gwneud sylw.

Aeth tair injan o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yno gan sicrhau bod yr awyren a'r teithwyr yn ddiogel.