Caerdydd: Rhyddhau dyn, 18, ar fechnïaeth ar ôl i gar daro cerddwyr

Ceir ar y lonFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar ôl i gar daro tri cherddwr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ar ôl i'r heddlu gael eu galw i Heol Trelái, Caerau am 00:30.

Fe gafodd un cerddwr anafiadau difrifol ac mae'n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog", meddai Heddlu De Cymru.

Cafodd y dyn 18 oed ei gadw yn y ddalfa wedi'r digwyddiad ond mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig