Angen 'sefydlogrwydd' ar Lafur y DU, meddai Prif Weinidog Cymru

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Llafur yn cynnig "profiad a sefydlogrwydd" dros "rhaniad a ffantasi" eu gwrthwynebwyr gwleidyddol, yw'r hyn y mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru ddweud wrth gynhadledd yr Hydref y blaid.

Bydd Morgan yn dweud: "Bydd Cymru'n mynd i anhrefn os bydd Plaid neu Reform yn ennill [etholiad y Senedd] ym mis Mai".

Bydd Ysgrifennydd Cymru Llafur, Jo Stevens, yn dweud wrth y cynrychiolwyr y byddai cynllun Plaid Cymru ar gyfer annibyniaeth i Gymru yn costio "dros £11,000 o gynnydd mewn treth bob blwyddyn i bob oedolyn o oedran gweithio".

Mewn ymateb, dywedodd Plaid Cymru fod polisïau Llafur, gan gynnwys cadw'r cap budd-dal dau blentyn, y cynnydd mewn yswiriant gwladol a thoriadau mewn taliadau tanwydd gaeaf, yn costio teuluoedd sy'n gweithio.

Bydd y prif weinidog yn rhybuddio pleidleiswyr i beidio "mentro" ar "lais rhanedig" Reform na "gwleidyddiaeth ffantasi" Plaid, gan ddweud y byddant yn "chwalu" popeth y mae Llafur wedi adeiladu ers datganoli.

"Cynllun Reform? Dinistrio'r GIG. Cael gwared â phresgripsiynau am ddim. Chwalu popeth sy'n symud."

Bydd hi'n dweud bod plaid flaenorol Nigel Farange, UKIP, yn "gawlach'" yn y Senedd, gyda chyn-aelod yn cyfaddef cyhuddiadau o lwgrwobrwyo sy'n gysylltiedig â Rwsia.

"Does dim angen gwleidyddiaeth ffantasi ar Gymru. Mae angen gweledigaeth ymarferol a chyffrous i ddyfodol ein cenedl, a byddwn yn amlinellu hynny yn ein maniffesto nesaf.

"Yr hyn sydd ei angen arnom yw profiad a sefydlogrwydd a hynny mewn cyfnod o ansefydlogrwydd."

Yn ei haraith, bydd Stevens yn cyhuddo Plaid Cymru o "economeg ffantasi" gan honni y byddai cynllun annibyniaeth hirdymor y blaid yn arwain at "biliynau o bunnoedd o godiadau treth a chyni ariannol i weithwyr ledled Cymru".

ELuned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

Nid yw'r dadansoddiad wedi ei rannu'n llawn gyda'r BBC, ac felly nid yw'r honiadau wedi'u gwirio'n annibynnol eto.

Er hyn, mae'r BBC yn deall bod y cyfrifiadau'n tybio y byddai Llywodraeth Cymru annibynnol yn parhau i wario yr un swm ar yr un meysydd ag y mae llywodraeth y DU yn ei wario ar hyn o bryd yng Nghymru ar feysydd y maen nhw'n eu rheoli.

"Os yw Plaid Cymru eisiau cael eu cymryd o ddifrif, mae angen iddynt gadarnhau a ydynt yn mynd i drethu teuluoedd Cymru i dlodi neu dorri gwasanaethau cyhoeddus i'r asgwrn," bydd Stevens yn ei ddweud.

"Mae Llafur wedi dod â chyni ariannol i ben yng Nghymru. Peidiwch â gadael i Blaid Cymru ei orfodi ar Gymru eto."

I'r gwrthwyneb, bydd hi'n dweud y bydd llywodraeth y DU yn buddsoddi mwy na £200m i adfywio strydoedd mawr ac adfywio cymunedau yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Jo Stevens wedi dewis defnyddio llwyfan ei chynhadledd i siarad yn negyddol am Gymru ar adeg lle mae mwy a mwy o bleidleiswyr Llafur yn symud draw at Blaid Cymru gyda'n gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein cenedl a'n cred yn ein potensial.

"Wrth i Lafur frwydro am berthnasedd, mae pobl Cymru yn gwybod yn y bôn fod yr esgid yn gwasgu yn sgil yr hyn sy'n digwydd o dan oruchwyliaeth Llafur."

Dadansoddiad Gohebydd Glweidyddol y BBC, Gareth Lewis

Mae'n ymddangos mai negeseuon Eluned Morgan a Jo Stevens yw 'parhewch i roi eich ymddiriedaeth ynom ni' a 'pheidiwch â chymryd risg' fis Mai nesaf.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod pleidleiswyr eisiau cael gwared ar Lafur gan ffafrio Plaid Plaid Cymru neu Reform yn eu lle.

O'r hyn a welsom o araith Morgan hyd yn hyn, mae llawer llai ynddi am yr hyn y mae Llafur wedi ei gyflawni ynghyd â'u gobeithion, a llawer mwy am y perygl o droi at blaid arall: cydnabyddiaeth o bosib nad yw record a chyflawniad yn creu rhyw lawer o argraff ar bleidleiswyr ar hyn o bryd.

Mae Stevens yn mynd cam ymhellach gyda'i honiadau am godiadau treth posibl yn dilyn sefydlu Cymru annibynnol, rhywbeth y mae Plaid yn siŵr o'i herio.

Mae rhywfaint o hyn yn adleisio'r hyn y mae Keir Starmer wedi bod yn ei ddweud ar lefel y DU yn ystod y dyddiau diwethaf, gan ddisgrifio Reform fel "gelyn".

Ond mae Llafur yng Nghymru yn ymladd ar ddwy ffrynt, yn ogystal ag yn erbyn eironi'r slogan un gair a fu'n amlwg yn ymgyrch lwyddiannus y blaid yn etholiad cyffredinol 2024: newid.