Asbestos: Dirwy i gwmni

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni o Rydaman sy'n darparu sanau i'r Tywysog Charles yn gorfod talu dirwy a chostau o £40,000 ar ôl bod yn euog o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Clywodd y llys nad oedd cwmni Corgi Hosiery wedi amddiffyn eu gweithwyr rhag asbestos wrth i waith gael ei wneud ar eu safle ym Mhantyffynnon.

Mae un o reolwyr y cwmni adeiladu Dragon Cladding o Cross Hands hefyd wedi cael gorchymyn i dalu £5,000.

Cafodd Dragon Cladding eu cyflogi i ailosod to'r ffatri ym Mhantyffynon.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod person dienw wedi cysylltu â'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch a chwyno bod asbestos yn cael ei symud yn beryglus.