Baw ci'n effeithio ar chwaraeon yn Nolgellau

  • Cyhoeddwyd
Y Marian, Dolgellau (llun: Helen Hall)Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Y Marian ei roi i bobl Dolgellau yn 1811

Mae problemau baw ci cynddrwg yn un o drefi Gwynedd, yn ôl clybiau chwaraeon lleol, fel bod rhaid stopio gemau rygbi, pêl-droed a chriced.

Yn ôl llefarydd ar ran Clwb Rygbi Dolgellau, roedd yn rhwystredig bod swyddogion yn gorfod archwilio caeau chwarae'r Marian cyn gemau.

Yn ogystal â bod yn berygl iechyd posib, ategodd ei fod yn annymunol.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai'n bosib cyhoeddi enwau'r rhai oedd yn gyfrifol.

Mae caeau'r Marian wedi cael eu defnyddio gan drigolion Dolgellau ers cenedlaethau.

Cafodd ei roi i bobl y dre' yn 1811 a bu'n ganolbwynt digwyddiadau hamdden ers hynny.

Mae "lleiafrif parhaus" o berchnogion cŵn yn cael y bai am fethu â glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes yn yr ardal.

Mae hyn er gwaetha' cynllun y cyngor i gynnig bagiau, arwyddion a biniau arbennig i roi baw ci ynddyn nhw.

Stopio gemau

Yn ystod 2010-11 roedd tîm gorfodaeth stryd y cyngor wedi cyflwyno 185 hysbysiad cosb benodol ar gyfer cŵn yn baeddu a thaflu sbwriel.

"Er bod 'na finiau baw ci o gwmpas Y Marian, mae rhai perchnogion cŵn yn eu hanwybyddu," meddai Dwyryd Williams o Glwb Rygbi Dolgellau.

Dywedodd fod swyddogion yn ceisio archwilio caeau chwarae cyn gemau ond bod dyfarnwyr yn gorfod stopio gemau weithiau i symud baw ci.

"Mae'r sefyllfa yma'n bygwth iechyd chwaraewyr ifanc, yn enwedig y rheiny sy'n hyfforddi ar Y Marian," ychwanegodd.

Dywed Stephen Parry, o'r clwb pêl-droed lleol, bod ganddyn nhw broblemau tebyg.

"Roedd y clwb yn chwarae gêm gwpan yn ddiweddar pan fu'n rhaid i'r dyfarnwr stopio'r chwarae yn ystod yr hanner cynta' i symud baw ci," meddai.

'Annheg'

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â bod yn gartre' i gemau ffurfiol, mae'r ardal hefyd yn cael ei defnyddio gan bobl leol

Mae cynghorydd lleol Gwynedd, Linda Morgan, yn dweud bod cyngor tre' Dolgellau wedi derbyn 22 o gwynion ynglŷn â baw ci.

"Mae'n achos pryder ac mor annheg i arweinwyr chwaraeon a gwirfoddolwyr sy'n gorfod ei bigo fyny cyn pob gêm," meddai.

Yn ôl arweinydd portffolio amgylchedd cyngor Gwynedd, Gareth Roberts, mae baw ci mewn mannau cyhoeddus yn achosi mwy o broblemau nag unrhyw fath o drosedd amgylcheddol arall.

"Does dim esgus dros beidio â glanhau ar ôl eich ci - mae ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol," meddai.

Ychwanegodd bod perchnogion cŵn yn cael eu cynghori i gario digon o fagiau baw ci, gan fod modd rhoi'r rheiny mewn biniau cyhoeddus neu fynd â nhw adre' i'w taflu.

Dywed Cyngor Gwynedd y gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am berchnogion cŵn anghyfrifol gysylltu â thîm gorfodaeth stryd y cyngor yn gyfrinachol trwy ffonio 01766 771000.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol