Galw am glirio 'dolur llygad'

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o ddatblygiad Ocean Plaza yn Y RhylFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o ddatblygiad Ocean Plaza yn Y Rhyl

Mae cynghorwyr yn Sir Ddinbych yn dweud fod datblygiad £85 miliwn wedi troi hen safle ffair y dref yn 'ddolur llygad'.

Maen nhw'n dadlau fod gwneud rhywbeth ar frys neu bydd o'n cael effaith ar dwristiaeth.

Am resymau economaidd, mae cynllun datblygu Ocean Plaza yn Y Rhyl wedi cael ei ddal yn ôl am bum mlynedd.

Dywed y Cynghorydd Joan Butterfield, bod y safle yn "ddolur llygad" ac y dylid ei glirio.

Mae perchnogion y tir - Scarborough Development Group (SDG) yn dweud eu bod yn siarad gyda Chyngor Sir Ddinbych am y mater.

Fe gafodd hen ffair Y Rhyl ei dymchwel yn 2007 er mwyn caniatáu datblygiad Ocean Plaza, oedd fod i gynnwys fflatiau moethus, gwesty ac archfarchnad.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd hen ffair y dref ei dymchwel er mwyn creu lle i'r datblygiad

Cafodd y tir ei brynu gan SDG yn 2010 wedi i'r datblygwyr gwreiddiol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Y llynedd, dywedodd SDG bod y datblygiad yn cael ei ddal yn ôl oherwydd yr hinsawdd economaidd anodd.

Ar y pryd, awgrymodd y cwmni y gallai'r fflatiau gael eu tynnu o'r cynllun datblygu oherwydd trafferthion posib wrth geisio ail-werthu'r eiddo.

Ond roed SDG yn hyderus y byddai dêl ar gyfer archfarchnad yn cael ei sicrhau.

Ond dywedodd Joan Butterfield, sy'n aelod o'r cyngor sir a thref, bod y safle bellach "yn llanast llwyr heb unrhyw obaith o gael ei ddatblygu yn y dyfodol agos na phell hyd y gwelaf i".

Ychwanegodd: "Rydym wedi cael addewid o ryw fath o ddatblygiad i'r safle ers pum mlynedd a mwy.

"Rwy'n derbyn bod y sefyllfa ariannol yn anodd, ond dyw hyn ddim yn digwydd mewn trefi glan môr eraill. Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen yn rhy hir.

"Does dim bwriad nawr i ddatblygu'r safle hyd y gwyddom ni.

"Rwy'n credu bod Y Rhyl wedi cael y dolur llygad yma am ddigon o amser nawr, ac rwy'n credu ei bod hi'n amser i SDG dderbyn perchnogaeth a rhoi tipyn o feddwl ac ystyriaeth i drigolion Y Rhyl."

Dywedodd Mrs Butterfield bod twristiaid wedi parhau'n deyrngar iawn i'r Rhyl, ond ei bod yn poeni y byddan nhw'n symud ymlaen oni bai bod y datblygiad gafodd ei addo yn digwydd.

'Tymor gwyliau'

Dywedodd un arall o gynghorwyr gorllewin Y Rhyl, Ian Armstrong: "Rydych yn dod i'r Rhyl ac yn gweld y safle hyll yma.

"Mae'n wanwyn nawr ac ymhen tair neu bedair wythnos fe fydd hi'n Basg. Mae'r tymor gwyliau bron â chyrraedd.

"Hoffwn i weld cae chwarae i blant neu ardal o wair yn cael ei osod yno gyda chadeiriau.

"Ar hyn o bryd, dydi o ddim yn denu pobl i orllewin Y Rhyl."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych bod y tir yn eiddo preifat, ond ychwanegodd bod SDG wedi cytuno i ystyried dewisiadau tirlunio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol